Addysgu
Wedi'i ysbrydoli gan ein strategaeth Gwerth Cyhoeddus, mae'r adran Rheolaeth, Cyflogaeth a Sefydliad yn ceisio meithrin a datblygu'r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion, gweithwyr proffesiynol ac arweinwyr, gan eu gwneud yn bobl moesol a sympathetig tuag at heriau cymdeithasol ac economaidd ein hoes.
Rydym ni'n cyflawni hyn drwy gwricwlwm arloesol, rhyngddisgyblaethol wedi’i arwain gan her. Mae themâu ymchwil allweddol yr adran MEO - rheoli, rheoli adnoddau dynol, astudiaethau sefydliadol, cysylltiadau cyflogaeth, rheoli iechyd, rheolaeth gyhoeddus a pholisi cyhoeddus - i gyd yn rhan bwysig o’n cwricwlwm ar draws gwahanol raglenni addysgu.
Astudiaethau ôl-raddedig
Rydym yn cynnig ystod o raglenni rheoli ôl-raddedig arbenigol sy'n gwerthfawrogi pwysigrwydd addysgu rhyngddisgyblaethol ac a arweinir gan ymchwil:
- MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol (gydag Achrediad CIPD)
- MSC mewn Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol
- MSc mewn Rheoli Rhyngwladol
Rydym hefyd yn cyfrannu at MBA Caerdydd, yr MSc mewn Rheoli Busnes, MSc Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth a'r Diploma mewn Cynllunio Gofal Iechyd (gydag opsiwn MSc).
Astudiaethau israddedig
Ar lefel israddedig, rydym yn cyfrannu at y rhaglen Rheoli Busnes, gan gynnig ystod o fodiwlau arbenigol ym meysydd rheoli, rheoli adnoddau dynol, astudiaethau sefydliadol, rheolaeth gyhoeddus a pholisi cyhoeddus.
Rhaglen PhD
Mae'r Adran MEO yn cefnogi grŵp gweithgar a thalentog o Fyfyrwyr PhD. Mae myfyrwyr PhD fel arfer yn gysylltiedig ag un o grwpiau ymchwil yr Adran MEO. Rydym yn croesawu ceisiadau PhD newydd gan y rhai sydd â diddordeb mewn astudio yn unrhyw un o'r meysydd ymchwil sy'n gysylltiedig â'r adran MEO.
Gellir cyfeirio ymholiadau cyffredinol am y broses ymgeisio at dîm PhD yr Ysgol Fusnes: