Ymchwil
Mae ymchwil yr Adran Rheolaeth, Cyflogaeth a Sefydliad (MEO) yn cyfrannu at genhadaeth gwerth cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd.
Ein nod yw gwella amodau cymdeithasol ac economaidd drwy fynd i’r afael â heriau o bwys gan ddefnyddio ymchwil newydd a rhyngddisgyblaethol.
Rydym yn cynnal ymchwil mewn tri maes eang: Cysylltiadau Cyflogaeth, Astudiaethau Trefniadaeth a Rheolaeth, a bydd yr olaf o’r rhain yn canolbwyntio’n benodol ar reoli'r sector cyhoeddus, rheoli iechyd a pholisïau cyhoeddus.
Grwpiau, unedau a chanolfannau ymchwil
Mae ein hymchwil yn rhyngddisgyblaethol ac yn adeiladu ar y gwahanol ddisgyblaethau a ymgorfforir yn ein hadran, ond mae’n gwneud hynny hefyd trwy ddatblygu perthnasoedd cydweithredol ac ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol.
Ar yr un pryd, mae gan ein hymchwil sylfaen ddisgyblaethol gref, ac mae'r Adran MEO yn cynnal nifer o Grwpiau a Chanolfannau Ymchwil, sy'n arwain yn eu maes astudio.
- Astudiaethau Trefniadaeth a Pholisïau Iechyd Caerdydd (CHOPS)
- Grŵp Ymchwil i Drefniadaeth Caerdydd (CORGies)
- Undeb Ymchwil i Gyflogaeth (ERU)
- Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP)
Mae'r rhestr ganlynol yn rhoi trosolwg o grwpiau ymchwil yr adran MEO a'i themâu allweddol.
Astudiaethau Trefniadaeth a Pholisïau Iechyd Caerdydd (CHOPS)
- Arloesedd a gwelliannau i wasanaethau
- Ansawdd a diogelwch
- Rheoli pobl
- Mapio a rheoli prosesau
- Rheoli prynu, caffael a chadwyni cyflenwi
Grŵp Ymchwil i Drefniadaeth Caerdydd (CORGies)
- Sefydliadau cynaliadwy
- Arloesedd sefydliadol
- Entrepreneuriaeth
- Arbenigwyr a phroffesiynau
- Arweinyddiaeth gyhoeddus a llywodraethiant cyfrifol
- Cryfder
- Disgwrs
Undeb Ymchwil i Gyflogaeth (ERU)
- Dyfodol gwaith
- Gwaith gweddus
- Cyflog byw
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Undebau llafur a sefydliadau cyflogwyr
- Cyflafareddu
- Anabledd
Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP)
- Economi a sgiliau
- Anghydraddoldebau
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Yr amgylchedd
- Plant dan ofal
- Unigrwydd ac ynysu cymdeithasol
Ymchwil gydweithredol
Mae academyddion yr Adran MEO yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws y Brifysgol a thu hwnt, gan gymryd rhan mewn nifer o fentrau a sefydliadau ymchwil rhyngddisgyblaethol:
- Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
- Canolfan Ymchwil Polisi Arloesedd
- Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol
- Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy
- Y-Lab
- Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD)