Economeg
Yr adran Economeg yw rhan hynaf yr Ysgol Busnes, ac mae wedi bodoli ers cyn 1900.
Rydym yn gymuned ymchwil fywiog, yn archwilio ystod o themâu economeg ac yn cynnal ymchwil effeithiol, sy'n berthnasol yn gymdeithasol.
Ar hyn o bryd mae gennym dros 40 o staff academaidd amser llawn sy'n cwmpasu ystod eang o feysydd, gan gynnwys:
- macro-economeg
- bancio
- cyllid
- economeg llafur (gan gynnwys rhywedd ac anabledd)
- astudiaethau rhanbarthol ac economi Cymru
- datblygiad rhyngwladol
- micro-economeg
- theori gemau ac economeg ymddygiadol
- econometreg (theori a chymhwysol).
Yn unol â dyheadau'r Ysgol Busnes i fod yr Ysgol Busnes 'Gwerth Cyhoeddus' gyntaf yn y byd, cenhadaeth yr adrannau economeg yw cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd trwy ein hymchwil a'n hymgysylltiad yn ogystal â'n gweithgareddau dysgu ac addysgu.
Cysylltu
Economics section
Our working papers can be found on the EconPapers website.