Ewch i’r prif gynnwys

Cynaliadwyedd cymdeithasol y gadwyn gyflenwi

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae modiwl Cynaliadwyedd Cymdeithasol y Gadwyn Gyflenwi yn rhoi cyfle unigryw i'n myfyrwyr ddod yn rheolwyr cymdeithasol gynaliadwy yn y dyfodol.

Mae'r modiwl, a ddyluniwyd gan Dr Maryam Lotfi ac a addysgwyd gyntaf yng ngwanwyn 2022, yn adlewyrchu strategaeth gwerth cyhoeddus yr ysgol. Mae'r modiwl yn rhan o'r rhaglen Cadwyn Gyflenwi Gynaliadwy (MSc).

Materion cymdeithasol

Mae’r myfyrwyr yn dysgu am faterion cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi byd-eang, gan gynnwys:

  • caethwasiaeth plant
  • caethwasiaeth fodern
  • ecsbloetio gweithwyr
  • anghydraddoldebau ar sail rhywedd,
  • amrywiaeth a chynwysoldeb cyflenwyr
  • rôl gwahanol randdeiliaid wrth reoli risg caethwasiaeth fodern

Addysgir y myfyrwyr sut mae cadwyni cyflenwi hir a chymhleth yn ein hatal rhag gweld sut mae cynhyrchion yn cael eu cynhyrchu, o dan ba amodau a chan bwy, yn benodol mewn cyflenwyr haen is.

Dr Maryam Lotfi ynghylch pam mae'r maes addysgu ac ymchwil hwn yn bwysig iddi:

“Mae materion cymdeithasol y gadwyn gyflenwi bob amser wedi cael llai o sylw o gymharu â materion amgylcheddol. Rydym bob amser yn siarad am gynhyrchion yn hytrach na phwy gynhyrchodd y cynhyrchion hynny ac o dan ba amodau. Dyma realiti chwerw cadwyni cyflenwi byd-eang heddiw sy'n cynnwys 3.3 miliwn o blant sy’n gaethweision yn y gadwyn gyflenwi (ILO 2022).

Mae gen i ddiddordeb enfawr ac rwy'n teimlo cyfrifoldeb enfawr fel ymchwilydd cynaliadwyedd i arddangos y meysydd hyn sy'n gysylltiedig â'r rhai sy'n cael eu cynnwys yn llai ac y mae llai o siarad amdanynt, yn enwedig plant a gweithwyr benywaidd sy'n cael eu hecsbloetio yn haenau isaf y cadwyni cyflenwi mewn llawer o wledydd sy'n datblygu. Maent yn dal i fod yn rhan o'r cadwyni cyflenwi ac rydym yn dal i fod yn gyfrifol. Fy nod yw datblygu dull gweithiwr-ganolog yn y cadwyni cyflenwi drwy fy ymchwil a’m haddysgu.”

Sut mae addysgu'n rhoi sylw i werth cyhoeddus

Mae'r addysgu'n mynd i'r afael â her fawr gwerth cyhoeddus, sef ‘gwaith gweddus’, trwy ymchwilio i waith anghyfreithlon plant mewn haenau is o gadwyni cyflenwi mewn gwledydd sy'n datblygu, yn benodol yn India.

Gyda chyflogau isel ac mewn llawer o achosion amodau gwaith sy'n effeithio ar iechyd plant, ac yn eu hamddifadu o addysg, nod y modiwl yw creu ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth plant fel risg mewn cadwyni cyflenwi.

“Ein nod yw rhoi llais i lafur plant sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn haenau isaf y cadwyni cyflenwi yn y mannau cynhyrchu.”
Dr Maryam Lotfi Uwch Ddarlithydd Rheoli Cadwyn Gyflenwi Cynaliadwy

Mae'r addysgu'n gwella gallu'r myfyrwyr i wneud y canlynol:

  • deall sut mae caethwasiaeth plant yn risg mewn llawer o gadwyni cyflenwi, yn enwedig yn yr haenau is mewn gwledydd sy'n datblygu
  • deall a dadansoddi sut gall rhanddeiliaid trydydd parti fel cyrff anllywodraethol gyfrannu at atal a chanfod ac adfer risgiau caethwasiaeth plant yn y cadwyni cyflenwi
  • datblygu strategaethau wrth symud ymlaen drwy ymchwilio i sut gall rhiant-gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi gyfrannu at reoli risg caethwasiaeth plant yn eu cyflenwyr haen is drwy gydweithio â rhanddeiliaid trydydd parti megis cyrff anllywodraethol lleol

Astudiaethau achos

Yn ystod y modiwl, bydd y myfyrwyr yn dysgu am sefydliad anllywodraethol o'r enw Kailash Satyarthi Children's Foundation (KSCF) a sefydlwyd gan Awdur Llawryfog Heddwch Nobel, Kailash Satyarthi, arweinydd sy’n brwydro yn erbyn caethwasiaeth plant yn India.

Gofynnir i fyfyrwyr ymchwilio i rai sefydliadau anllywodraethol eraill sy'n mynd i'r afael â llafur plant mewn cadwyni cyflenwi. Gofynnir iddynt sut y credant y gall cadwyni cyflenwi oresgyn y cymhlethdod sydd ynghlwm wrth gyfrannu at atal, canfod, unioni ac ymateb wrth reoli risg caethwasiaeth plant mewn cyflenwyr haen is yn y mannau cynhyrchu.