Economi gylchol
Bydd y myfyrwyr yn dysgu am yr economi gylchol fel rhan o'r rhaglen Marchnata (MSc).
Ers penodiad Dr Roberta De Angelis fel Darlithydd mewn Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd, mae meddylfryd economi gylchol ac enghreifftiau o fodelau busnes cylchol wedi'u hymgorffori yn y modiwlau y mae'n dysgu arnynt. Mae'r modiwlau'n cynnwys: Egwyddorion Marchnata a Strategaeth, Marchnata yn ei Gyd-destun ac Entrepreneuriaeth ac Arloesi Trawsnewidiol.
Economi gylchol a gwerth cyhoeddus
Mae Sefydliad Ellen MacArthur yn disgrifio cysyniad yr economi gylchol: “yn ein heconomi bresennol, rydym yn cymryd deunyddiau o'r Ddaear, yn gwneud cynhyrchion oddi wrthynt, ac yn y pen draw yn eu taflu fel gwastraff - mae'r broses yn llinol. Mewn economi gylchol, ar y llaw arall, rydym yn atal gwastraff rhag cael ei gynhyrchu yn y lle cyntaf.”
Mae'r economi gylchol wedi cael llawer o sylw ar draws cylchoedd polisi, busnes ac academaidd fel ateb addawol i fynd i'r afael â llawer o'r heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd o ran cynaliadwyedd. Mae'r rhain yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, disbyddu adnoddau naturiol cyfyngedig, pris adnoddau ac anwadalrwydd y cyflenwad.
O ganlyniad i'r addysgu, mae’r myfyrwyr yn dysgu diffinio ac adnabod cysyniad ac egwyddorion yr economi gylchol yn glir. Maent yn dysgu dadansoddi'r gwerth economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sy'n deillio o weithredu modelau busnes cylchol.
Astudiaethau achos
O fewn y modiwlau, bydd y myfyrwyr yn archwilio astudiaeth achos Toast Ale - menter gymdeithasol a B Corp ardystiedig. Mae Toast Ale yn gwrw crefft arobryn sy'n cael ei fragu â bara ffres dros ben a fyddai fel arall yn cael ei wastraffu. Mae'r holl elw'n mynd i elusennau sy'n gweithio i fynd i'r afael â gwastraff bwyd.
Gan dynnu ar fewnwelediadau o Sefydliad Ellen MacArthur a gwefan Toast Ale, bydd y myfyrwyr yn dadansoddi model busnes Toast Ale ac yn ymchwilio i'r mathau lluosog o werth sy'n deillio o weithredu modelau busnes cylchol.
Adborth gan fyfyrwyr
Cafwyd adborth cadarnhaol gan fyfyrwyr am bwnc yr economi gylchol gyda sylwadau yn cynnwys: “buddiol i gymdeithas”, “agoriad llygaid” “angenrheidiol”, “diddorol iawn” ac “anhygoel”.
Mae Dr Roberta De Angelis yn esbonio beth mae addysgu gwerth cyhoeddus yn ei olygu iddi
“Mae sefydliadau addysg uwch yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu'r sgiliau a'r weledigaeth angenrheidiol i'r rhai a fydd yn siapio'r byd yfory i sbarduno arloesedd cylchol. Dyma un o'r rhesymau pam rwy'n credu ei bod yn bwysig dysgu’r pwnc hwn.”
O ran sut datblygodd diddordeb Dr De Angelis mewn cynaliadwyedd corfforaethol, mae hi’n dweud bod hynny wedi digwydd pan oedd hi'n fyfyriwr Meistr ac fe wnaeth hi gwrdd â'i darpar oruchwyliwr doethurol, Julie Whittaker .
“Fe wnaeth ei gwybodaeth a'i hangerdd am y pwnc yn ogystal â ffigwr carismatig y Fonesig Ellen MacArthur, sylfaenydd y sefydliad deitlog, a gwaith y Sefydliad ar yr economi gylchol, fy ysbrydoli i ddilyn gradd ddoethurol mewn arloesedd model busnes ar gyfer economi gylchol er mwyn deall yn well sut gall busnesau gyfrannu at adeiladu economi fwy ffyniannus a gwydn.
Rwy'n gobeithio, trwy ddysgu'r model economi gylchol, y gallaf roi'r un ysbrydoliaeth a chymhelliant i'm myfyrwyr ag a daniodd fy angerdd a'm diddordeb innau yn y pwnc hwn. Mae'n gyfle gwych i gataleiddio sylw ein myfyrwyr ac arweinwyr busnes y dyfodol, a allai fod eisiau dysgu mwy am yr economi gylchol gydag astudiaethau pellach neu ei gweithredu o fewn y sector corfforaethol.”
Ychwanegodd Dr De Angelis:
“Dadleuodd Albert Einstein yn enwog “na allwn ddatrys ein problemau â’r un meddylfryd a’u creodd.” Ni all ein heconomi linol echdynnol a gwastraffus fod yn ateb i'r argyfwng ecolegol presennol y mae wedi cyfrannu at ei greu. Mae gan ysgolion busnes gyfle gwych i rybuddio arweinwyr busnes y dyfodol i fod yn arloesol a chyflawni ffyrdd mwy cyfrifol o wneud busnes. Rwy'n falch o fod yn ddarlithydd yn yr ysgol fusnes hon sy'n cael ei gyrru gan werth cyhoeddus a bod wedi fy ngrymuso i ddarparu addysg sy'n ysbrydoli ac yn ysgogi'r meddwl wrth ganolbwyntio ar yr economi gylchol.”
Mae dysgu mewn amgylchedd a arweinir gan ymchwil, yn golygu bod myfyrwyr yn cydweithio gydag ymchwilwyr sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu disgyblaethau.