Achrediad
Rydym yn falch iawn o gryfder ein cynnig a'n cyflawniadau, sydd wedi'u cydnabod yn allanol gan nifer o bartneriaid a sefydliadau.
Rydym yn falch ein bod wedi ennill cymeradwyaeth allanol ar gyfer ein hagenda unigryw a blaengar a arweinir gan werth cyhoeddus, ein haddysgu a'n hymchwil, gan fodloni safonau rhai o'r prif aseswyr a chyrff achredu rhyngwladol.
Y Gymdeithas i Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol Rhyngwladol (AACSB)
Rydym wedi'n hachredu gan AACSB – sy'n nodwedd rhagoriaeth mewn ysgolion busnes. Dyfernir yr achrediad hwn i lai na 5% o ysgolion busnes y byd, a ni yw'r unig ysgol fusnes yng Nghymru sydd wedi ennill y wobr hon.
Mae'r achrediad nodedig hwn yn rhoi sicrwydd i fyfyrwyr a rhieni bod yr ysgol fusnes yn darparu addysg o'r safon uchaf ac yn cadarnhau i gyflogwyr bod ein graddedigion yn barod ac yn meddu ar y gallu i gyrraedd y brig. Mae hefyd yn sicrhau bod gan yr ysgol ymrwymiad i welliant parhaus trwy gylch adolygu bob pum mlynedd.
I ddarganfod mwy am yr hyn y gall astudio mewn ysgol ag achrediad AACSB ei olygu i chi, ewch i wefan AACSB.
Cymdeithas MBAs (AMBA)
Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi'i hachredu gan Gymdeithas MBAs (AMBA), un o brif awdurdodau’r byd ar addysg fusnes ôl-raddedig.
Mae cael eich achredu gan AMBA yn golygu bod eich addysg fusnes ôl-raddedig o’r safon uchaf. Mae hynny’n golygu bod Ysgol Busnes Caerdydd ymhlith y 2% o Ysgolion Busnes gorau’r byd.
Mae AMBA yn canolbwyntio ar effaith, cyflogadwyedd a deilliannau dysgu wrth achredu.
Gall pob myfyriwr MBA a myfyriwr MBA sydd wedi graddio’n ddiweddar ymuno â chymuned AMBA o fwy na 57,000 o fyfyrwyr a chynfyfyrwyr mewn mwy na 150 o wledydd.
Darganfyddwch ragor am yr hyn y mae'n ei olygu i astudio mewn Ysgol a achredwyd gan AMBA.
Y Sefydliad Marchnata Siartredig
Mae’r cwrs MSc mewn Marchnata Strategol wedi’i achredu gan y corff marchnata proffesiynol mwyaf blaenllaw, y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM).
Mae’r CIM yn cydweithio â phrifysgolion ledled y byd, gan fapio cynnwys eu graddau yn erbyn cymwysterau marchnata proffesiynol mwyaf poblogaidd y CIM.
Mae hyn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill eithriadau ar nifer yr asesiadau sydd eu hangen i ennill cymhwyster CIM, gan ei gwneud yn fwy effeithlon a chost-effeithiol i ennill cymhwyster marchnata proffesiynol.
Mae cymwysterau’r CIM yn seiliedig ar ymchwil fanwl ac adborth parhaus gan gyflogwyr, gan rannu'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer marchnatwyr heddiw. Mae hyn yn helpu ein myfyrwyr prifysgol i ddatblygu’n ymarferwyr, sefyll allan o'r dorf a chynyddu eu siawns o sicrhau eu dewis cyntaf o swydd ar ôl graddio.
Y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD)
Rydym yn un o ganolfannau cymeradwy’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) Mae aelodaeth yn dangos ymrwymiad i safonau uchel o broffesiynoldeb yn y sector adnoddau dynol.
Mae holl raddedigion yr MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol yn gymwys yn awtomatig ar gyfer Aelodaeth Graddedig o'r CIPD, cymhwyster sy'n ofynnol gan y mwyafrif o gyflogwyr ar gyfer swyddi Adnoddau Dynol yn y DU. Gall graddedigion sydd â dwy flynedd o brofiad proffesiynol a enillwyd wrth weithio mewn adran Adnoddau Dynol uwchraddio eu haelodaeth i fod yn Aelod Siartredig o'r CIPD.
Yn ystod eu hastudiaethau, gall myfyrwyr hefyd elwa o aelodaeth i fyfyrwyr, sy'n rhoi mynediad i holl adnoddau ar-lein y CIPD ac yn golygu y gallant fynychu cyfarfodydd cangen De-ddwyrain Cymru y CIPD i rwydweithio ag ymarferwyr.
Mae aelod o gangen leol y CIPD yn mynychu cwrs sefydlu'r rhaglen MSc i roi gwybodaeth am fuddion aelodaeth o’r CIPD ac mae'r gangen yn cynnig gwobr Myfyriwr Gorau i'r myfyriwr mwyaf addawol.
Y Siarter Busnesau Bach
Mae gwobr nodedig y Siarter Busnesau Bach yn nod barcud cenedlaethol sy’n cydnabod ysgolion busnes sy'n dangos rhagoriaeth wrth gefnogi menter myfyrwyr, ymgysylltiad â’r economi leol, a chymorth busnes.
Rydym yn un o 36 o ysgolion yn unig ar draws y DU ac Iwerddon i dderbyn y marc rhagoriaeth, ac rydym yn ychwanegu ei harbenigedd unigryw at rwydwaith y Siarter Busnesau Bach trwy rannu gwybodaeth a syniadau a datblygu arfer gorau ym meysydd menter, entrepreneuriaeth ac ymgysylltu â busnes.
Mae gwefan y Siarter Busnesau Bach yn cysylltu busnesau bach. Mae'r wefan yn ganolbwynt sy'n rhoi cyngor a chymorth i fusnesau gan y 36 ysgol fusnes sydd wedi ennill eu gwobr.
Rhaglenni achrededig
Cyfrifyddu a Chyllid
Mae llawer o'n graddau cyfrifyddu a’r rhai chysylltiedig wedi'u hachredu gan y cyrff proffesiynol a gallant gynnig eithriadau o arholiadau proffesiynol yn seiliedig ar y modiwlau a astudiwyd yn ystod eich gradd. Y cyrff proffesiynol sy'n cynnig eithriadau i'n myfyrwyr yw:
- ACCA – Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig
- AIA - Cymdeithas y Cyfrifwyr Rhyngwladol
- CIMA - Sefydliad Siartredig Cyfrifyddu Rheolaeth
- ICAEW - Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
Ymrwymiad i gynnydd cymdeithasol
Yn ogystal â'n hachrediadau ffurfiol - ar lefel Ysgol a rhaglen - rydym hefyd wedi ymrwymo i amrywiaeth o fentrau sy'n cefnogi rheolaeth flaengar a chyfrifol.
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Addysg Rheolaeth Gyfrifol (UNPRME)
Daethom yn un o lofnodwyr menter Egwyddorion Addysg Rheolaeth Gyfrifol y Cenhedloedd Unedig yn 2016, un o ddim ond pedwar sefydliad o Gymru ymhlith ei aelodau.
Nod PRME a'i chwe egwyddor yw sefydlu 'proses o welliant parhaus ymhlith sefydliadau addysg rheolaeth er mwyn datblygu cenhedlaeth newydd o arweinwyr busnes sy'n gallu rheoli'r heriau cymhleth sy'n wynebu busnes a’r gymdeithas yn yr 21ain ganrif'.
Mae cenhadaeth UNPRME i ysbrydoli a hyrwyddo addysg rheolaeth gyfrifol yn cyd-fynd yn llwyr â'n hethos Gwerth Cyhoeddus.
Mae dysgu mewn amgylchedd a arweinir gan ymchwil, yn golygu bod myfyrwyr yn cydweithio gydag ymchwilwyr sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu disgyblaethau.