Amdanom ni
Rydym yn Ysgol busnes a rheoli gyda’r gorau yn y byd, sy’n canolbwyntio’n ddwys ar ymchwil, gydag enw da am ragoriaeth.
Rydym hefyd yn falch o fod yn ysgol fusnes gwerth cyhoeddus gyntaf y byd. Dan arweiniad ein strategaeth ac egwyddorion gwerth cyhoeddus blaengar, rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwerth economaidd a chymdeithasol drwy addysgu ac ymchwil rhyngddisgyblaethol sy'n mynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n wynebu'r byd heddiw.
Fel cymuned fyd-eang o staff a myfyrwyr, sy’n cynrychioli nifer o wledydd a chenhedloedd, rydym yn cynnig amgylchedd bywiog a colegol. Mae hyn yn galluogi ac yn cefnogi darparu meddwl trawsnewidiol ac ymchwil sy’n cael effaith.
Mae perthnasedd cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ein hymchwil yn rhan annatod o’r ethos gwerth cyhoeddus sydd wedi gwreiddio yn ein hysgol, ac rydym yn ymrwymedig i gynhyrchu effaith wirioneddol. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2021) diweddaraf, cawsom y sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil, gan adlewyrchu ein diwylliant ymchwil colegol, cynhwysol a chyfranogol.
O ran dysgu, rydym yn cynnig ystod eang ac amrywiol o gyrsiau ar lefel israddedig, ôl-raddedig, PhD ac ar lefel weithredol. Mae ein hacademyddion, sy'n gweithio ar flaen y gad yn eu disgyblaethau, yn trosi eu hymchwil a’u profiad i'r ystafell ddosbarth, gan ddarparu mewnwelediad a gwybodaeth gyfredol o’r rheng flaen i fyfyrwyr. Yn ychwanegol at ragoriaeth academaidd, rydym wedi ymrwymo i gefnogi cyflogadwyedd ein graddedigion a chynnig cyfleoedd sylweddol i gael profiad ymarferol o’r byd go iawn drwy leoliadau, interniaethau a phrosiectau busnes byw.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r gymuned fusnes leol a chenedlaethol i ganfod a darparu cyfleoedd lleoliad gwaith i’n myfyrwyr, ond hefyd mewn ffyrdd eraill sy’n fuddiol i'r ddwy ochr, pa un ai’n ffurfiol drwy bartneriaethau trosglwyddo gwybodaeth, ein darpariaeth addysg weithredol neu drwy gydweithio ar waith ymchwil mesuradwy.
Rydym yn Ysgol fusnes ddeinamig ac effro, sy’n edrych at y dyfodol, tuag at ffyrdd newydd o arloesi, syniadau newydd a phartneriaethau newydd. Mae'r cysylltiadau a’r mentrau hyn yn rhan ganolog o’n helpu ni i gyflawni ein cenhadaeth gwerth cyhoeddus feiddgar.
Mae ein hymchwil, sy’n cael ei gynnal gan gyfadran ryngwladol o ysgolheigion sy’n gweithio ar flaen y gad yn eu meysydd pwnc, o fudd i amrywiaeth eang o randdeiliaid.