Ymchwil Bioddelweddu
Mae’r Hwb Ymchwil Bioddelweddu yn cynnig y dechnoleg a’r arbenigedd diweddaraf ym maes microsgopeg golau, o’r cysyniad arbrofol hyd at y ddelwedd orffenedig. Mae’r Hwb wedi’i gysylltu â chyfarpar Labordy Bioffotoneg Ysgol y Biowyddorau, yn ogystal â chyfarpar lloeren eraill.
Mae’r Hwb yn cydweithio ag ymchwilwyr ledled Prifysgol Caerdydd ynghyd ag aelodau o Gynghrair GW4. Rydym hefyd yn arloesi wrth gynnig gwasanaeth delweddu ym meysydd bioleg, cemeg a’r gwyddorau deunyddiau a’r sector diwydiannol.
Mae cymorth technegol, hyfforddiant ac arweiniad llawn ar ddefnyddio ein cyfarpar delweddu ar gael i chi ar sail talu wrth fynd.
Ein gwasanaethau
Rydyn ni’n cynnig nifer o wasanaethau prosesu histolegol a pharatoi sleidiau gan gynnwys:
- Prosesu â chwyr paraffin a mewnosod
- Microlafnu a pharatoi sleidiau
- Staenio histolegol – Haematocsolin a Eosin (H&E) fel arfer, ond cysylltwch â'r Hwb Ymchwil Bioddelweddu (bioimaginghub@caerdydd.ac.uk) i drafod dulliau staenio eraill.
Rhaid i bob sampl sy'n cael eu cyflwyno i histoleg ddod gyda ffurflen cais Histoleg.
Dylsai cwsmeriaid tu hwnt i’r Ysgol ebostio Hwb Ymchwil Bioddelweddu (bioimaginghub@caerdydd.ac.uk) i gael dyfynbris.
Mae’r Hwb yn gartref i ficrosgop cydffocal unionsyth Zeiss LSM880 Airyscan a system ddelweddu awtomataidd Zeiss Celldiscoverer7 (gweler isod). Mae meddalwedd blaengar yn perthyn i’r ddwy system ar gyfer prosesu a dadansoddi setiau data microsgopeg 3D/4D. Mae’r microsgop cydffocal LSM880 Airyscan yn addas ar gyfer:
- Delweddu cydffocal 3D/4D o ddeunydd biolegol wedi ei doriannu, celloedd/meinweoedd byw a deunyddiau anfiolegol.
- Delweddu tra-fanwl
- Dulliau delweddu fflworoleuedd aml-sianel, adlewyrchrwydd a thrawsyriant golau.
- Sganio a phwytho teils
- Dadansoddi cyd-leoleiddiad fflworocrômau
- Meddalwedd trin delweddau trwy FRAP, FRET ayyb.
- Delweddu oes fflworoleuedd (FLIM) a sbectrosgopeg cydberthyniad fflworoleuedd (FCS)
Mae’r system ddelweddu ddiweddaraf Zeiss Celldiscoverer 7 yn caniatáu delweddu tra-fanwl mewnbwn uchel ac aml-ddimensiwn o samplau biolegol, o gelloedd byw i organebau model bychain. Mae rheolaeth amgylcheddol llawn yn perthyn i’r system gydag phorth ar gyfer trosglwyddo sampl ar echel. Mae’r cyfarpar yn gallu gwneud y canlynol:
- Delweddu deallus aml-sianel, aml-fformat (cynorthwyir sleidiau, sleidiau siambr, dysglau, platiau ayyb).
- Rhaglenni sgrinio cell menwnbwn uchel, awtomataidd
- Delweddu aml-sianel gyda moddau fflworoleuedd a thrawsyriant golau.
- Delweddu cydffocal 3D/4D o gelloedd byw/meinwe a deunydd biolegol wedi ei doriannu.
- Delweddu uwch-fanwl
- Sganio teils a phwytho
- Meddalwedd trin delweddau trwy FRAP, FRET ayyb
- Dadymdroelliad a dysgu peirianyddol
Adain ddelweddu celloedd byw yr Hwb Bioddelweddu yn gartref i ficrosgop cydffocal sy’n defnyddio disg sy’n troelli ar gyfer prosesau delweddu cyflym, oediog. Mae’r system yma’n paratoi delweddau aml-safle (x,y,z) yn gyflym gan ddefnyddio technegau fflworoleuedd aml-liw a thrawsyriant golau. Mae systemau ar gyfer delweddu celloedd byw (h.y. nwy a magwrydd) ar gael hefyd.
Mae’r system Zeiss Lightsheet Z.1 â’i rheolaeth amgylcheddol yn caniatáu delweddu amlolwg ac aml-liw o samplau trwchus fflworoleuol â chydraniad gofodol-amseryddol uchel.
Mae gennym ystod o ficrosgopau manylder uwch o gyfres Olympus BX a Leica DM i gipio delweddau digidol ar gyfer y canlynol:
- Microsgopeg maes llachar
- Microsgopeg maes tywyll
- Microsgopeg gweddgyferbyniol
- Microsgopeg cyferbyniad ymyrraeth wahaniaethol Nomarski
- Microsgopeg begynol
- Microsgopeg epifflworoleuedd
Mae ein system sganio sleidiau (Surveyor) yn paratoi sganiau a delweddau digidol tra manwl o feinwe cyfan ar gyfer rhith-histoleg a phatholeg.
Mae sganiwr sleidiau Olympus VS200, sydd wedi'i leoli yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, yn hwyluso sganio sleidiau cyfan, cwbl awtomataidd, o adrannau histolegol drwy amrywiaeth o foddau delwedd, gan gynnwys epifflworid.
Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth delweddu trawsyriant golau ac epifflworoleuedd o samplau bychain iawn gan gynnwys mowntiau cyfan, platiau meithriniad, jelïau, lluniadau wedi’u saernïo a thoriadau meinwe, yn ogystal â ffotograffiaeth gyffredinol.
Mae’r Biospace Lab PhotonIMAGER Optima yn paratoi delweddau sbectrwm-llawn ar sail bioymoleuedd a fflworoleuedd meinwe byw, o las i isgoch-agos.
Mae’r fflworosbectromedr Thermo Fisher NanoDrop 3300 yn mesur meintiau picogram DNA, RNA a phrotein mewn hydoddiannau microgyfaint.
Mae’r Zeiss PALM MicroBeam laser microdissector, sydd yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, yn arunigo DNA, RNA a phrotein o doriadau histolegol (cwyr paraffin neu cryo) a chelloedd byw.
Peiriant Argraffu 3D:
Mae’r Ultimaker 3 Extended yn beiriant argraffu 3D allwthiad deuol sy’n defnyddio data cyfaint i baratoi modelau 3D deuliw o ansawdd uchel hyd at 30cm o uchder.
Mae’r argraffydd yn derbyn ffeiliau argraffu 3D .stl obj, .dxf a .3mf.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau Bioddelweddu, cysylltwch â:
Dr Anthony Hayes
Rheolwr, Canolfan Ymchwil Bioddelweddu, Ysgol y Biowyddorau
Yr Athro Peter Watson
Cyfarwyddwr Addysg Ôl-raddedig, Athro, Arweinydd academaidd cyfleusterau delweddu, Cydlynydd Addysgu Ymchwil Ôl-raddedig
Dewch i gael rhagor o wybodaeth am ein Hwb Ymchwil Bioddelweddu, gan gynnwys yr offer sydd ar gael a sut i drefnu amseroedd.