Grwpiau diddordeb ymchwil
Rydym yn cynnal grwpiau ymchwil rhyngddisgyblaethol ar draws Ysgol y Biowyddorau a thu hwnt, gan ddod ag arbenigedd, gwybodaeth a meysydd ymchwil.
Bioleg Gwrthiant Gwrthficrobaidd a Heintiau
Mae Rhwydwaith Bioleg Gwrthiant Gwrthficrobaidd a Heintiau (GWELLA-Haint) yn mynd i'r afael â chwestiynau sylfaenol am fioleg heintiau – sut y caiff pathogenau eu caffael, eu trosglwyddo a’u hesblygu mewn oes pan mae’r boblogaeth ddynol yn fwyfwy symudol, yn dibynnu ar gyffuriau ac yn ymwrthod â gwrthficrobau.
Microbiomau, Microbau a Gwybodeg
Mae grŵp diddordeb arbennig Microbiomau, Microbau a Gwybodeg yn ymchwilio i ffenomena microbiolegol sy'n amrywio o fioleg moleciwlaidd un gell, i gymunedau organebau a'u cysylltiad â phobl, anifeiliaid, planhigion a'r amgylchedd ehangach.
Grŵp Ymchwil Ymyrraeth Ffisiotherapi Synhwyro
Mae Grŵp Ymchwil Ymyrraeth Ffisiotherapi Synhwyro yn weithredol ar draws ystod o brosiectau amlddisgyblaethol i wneud newidiadau cadarnhaol i'r ffordd y cyflwynir rheolaeth gofal iechyd ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol a diabetig.
Biosynwyryddion a Delweddu Uwch
Mae grŵp diddordeb arbennig Biosynwyryddion a Delweddu Uwch yn cynnal gweithgareddau ymchwil ac ymgysylltu ar dechnolegau newydd a thechnolegau sy'n datblygu ym maes delweddu biolegol a synhwyro biolegol. Mae hyn yn cynnwys datblygu offer newydd, chwiliedyddion a chyfarpar dadansoddi data meintiol.
Dadansoddi Drosophila In-vivo
Yng ngrŵp Dadansoddi Drosoffila In-vivo, mae gennym arbenigedd mewn llawer o dechnegau Drosoffila arloesol, a chysylltiadau â chymunedau pryfed y DU a rhyngwladol. Mae hyn yn creu amgylchedd hyfforddi hynod gefnogol a gwybodus i'n myfyrwyr a'n staff.
Rhwydwaith Planhigion ar gyfer y Dyfodol
Mae'r Rhwydwaith Planhigion ar gyfer y Dyfodol yn cynnal ymchwil ac ymgysylltiad cymhwysol a sylfaenol ar sut mae planhigion yn datblygu, atgynhyrchu, a rhyngweithio ag amgylchedd sy'n newid.