Ewch i’r prif gynnwys

WeWASH

Epidemioleg dŵr gwastraff yn chwarae rôl gwbl allweddol yn y gwaith o gadw golwg ar COVID-19 yng Nghymru.

Wastewater samples being collected at Dŵr Cymru Welsh Water treatment works
Wastewater samples being collected at Dŵr Cymru Welsh Water treatment works. ©Dan Struther

Cefndir

Mae Dadansoddi a Chadw Golwg ar Ddŵr Gwastraff Amgylcheddol yng Nghymru er Iechyd (WeWash) yn brosiect sy’n dod ag arbenigwyr o Brifysgol Cymru, Prifysgol Bangor, Dŵr Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd i fonitro lefel SARS-CoV-2 mewn dŵr gwastraff yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at ymdrechion i gadw golwg ar COVID-19 yng Nghymru ac yn dylanwadu ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru.

Nodau

Nod epidemioleg dŵr gwastraff yw cynnig gwybodaeth gynhwysfawr am iechyd ar lawr gwlad.

Mae carthion unigolion â COVID-19 yn cynnwys SARS-CoV-2, p'un a oes ganddynt symptomau neu beidio. Felly, mae defnyddio epidemioleg dŵr gwastraff i fesur nifer y genomau feirol mewn dŵr gwastraff yn ffordd niwtral ac amgen o fesur nifer yr achosion o COVID-19 ar lawr gwlad.

Gwneir hyn drwy:

  • Cymryd samplau o ddŵr gwastraff a mesur lefel modiwl targed ynddo, cyn dadansoddi a dehongli’r data ar gyfansoddion cemegol a biolegol
  • Casglu dŵr gwastraff yn un o weithfeydd trin dŵr gwastraff Dŵr Cymru i gael cipolwg cynrychioliadol ar lefel moleciwl targed mewn ardal sy’n cael ei gwasanaethu gan y gwaith trin dŵr gwastraff hwnnw
Preparing wastewater samples for testing
Preparing wastewater samples for testing ©Emma Green

Cyllid

Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru o oddeutu £4 miliwn dros 12 mis ar gyfer y prosiect hwn.

Pobl

Ynghyd â nifer o Gymdeithion Ymchwil Ôl-ddoethurol a thechnegwyr, prif bwyntiau cyswllt y prosiect hwn yw:

Yr Athro Andy Weightman

Yr Athro Andy Weightman

Yr athro

Email
weightman@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5877
Yr Athro Isabelle Durance

Yr Athro Isabelle Durance

Darllenydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr

Email
durance@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)7800 774491 / +44 (0)29 2087 4484
Yr Athro Peter Kille

Yr Athro Peter Kille

Cyfarwyddwr Mentrau Biolegol

Email
kille@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4507
Dr Tomasz Jurkowski

Dr Tomasz Jurkowski

Senior Lecturer

Email
jurkowskit@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6291
Yr Athro Thomas Connor

Yr Athro Thomas Connor

Professor

Email
connortr@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4147
Yr Athro Owen Jones

Yr Athro Owen Jones

Chair in Operational Research

Email
joneso18@caerdydd.ac.uk
Telephone
029 2251 0253

Partneriaid

Mae'r rhestr lawn o bartneriaid y prosiect:

  • Llywodraeth Cymru
  • Prifysgol Bangor
  • Dŵr Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru