Ewch i’r prif gynnwys

Organebau a’r amgylchedd

Deall sut mae organebau a'u hamgylchedd yn rhyngweithio, gan gynnwys bioleg sylfaenol, iechyd ecolegol, a chanlyniadau newid amgylcheddol.

Gwelwch fwy am ein Canolfan Maes Danau Girang ym Malaysia

Nod ymchwil Organebau a’r Amgylchedd yw deall sut mae organebau a’u hamgylchedd yn rhyngweithio â’i gilydd, gan gynnwys bioleg sylfaenol, iechyd ecolegol, a chanlyniadau newid amgylcheddol ar amrywiaeth biolegol. Gallai deall ymyriadau yn seiliedig ar y pynciau hyn gefnogi cadwraeth mewn cyfnod o newid byd-eang.

Meysydd ymchwil

Mae ymchwil Organebau a’r Amgylchedd yn canolbwyntio ar dri maes penodol:

  • Newid byd-eang a gwydnwch adnoddau - archwilio effaith y newid yn yr hinsawdd a phrosesau eraill a yrrir gan ddyn ar organebau ac ecosystemau
  • Cadwraeth ac esblygiad - ymhelaethu ar sut mae clefydau, parasitiaid a cholli cynefinoedd yn effeithio ar oroesiad rhywogaethau
  • Deall microbiomau a pharasitiaid - ymdrin â heriau deall sut mae microbiomau yn rhyngweithio â’u lletywyr i sbarduno iechyd a chlefydau

Cydweithrediadau

Mae’r maes ymchwil hwn yn un amlddisgyblaeth, ac mae cysylltiadau cryf rhwng yr is-adran a grwpiau ymchwil ar draws y gwyddorau a’r gwyddorau cymdeithasol, yn ogystal â chysylltiadau uniongyrchol â Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Sefydliad Ymchwil Dŵr
  • Sefydliad Arloesedd Data
  • Canolfan Maes Danau Girang yn Sabah, Malaysia

Bydd Canolfan Hyfforddiant Doethurol newydd, Un Iechyd ar gyfer Un Amgylchedd: Dull A-Y ar gyfer Mynd i’r Afael â Milheintiau, yn agor ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi 2023. Mae hwn yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Aberystwyth,Prifysgol Queen’s Belfast ac Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.

Mae gan yr is-adran hon hefyd gysylltiadau allanol cryf ag Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Chymdeithas Ecolegol Prydain, yn ogystal ag elusennau lluosog a chyrff anllywodraethol.

Ceisiadau cymrodoriaeth ac ôl-raddedig

Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr cymrodoriaeth sydd â’r un diddordebau â meysydd ymchwil yr is-adran gysylltu. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â biosi-research@caerdydd.ac.uk

Rydyn ni hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr PhD sydd â diddordebau ymchwil sy'n cyd-fynd â'n meysydd ymchwil strategol.

Cysylltwch â biosi-pg@cardiff.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Mae cyfleoedd ôl-raddedig eraill yn cynnwys:

Aelodau staff

Dyma restr o’r holl staff academaidd yn yr is-adran hon. Defnyddiwch y manylion cysylltu ar ein tudalennau unigol neu e-bostiwch biosi-research@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio gyda ni.

EnwMaes o ddiddordeb
Yr Athro Jo Cable - Pennaeth yr Is-Adran Rhyngweithiadau organeb letyol-parasit, ecoleg foleciwlaidd ac ymddygiadol.
Yr Athro Peter Kille - Dirprwy Bennaeth yr Is-Adran, YmchwilStraen metel trwm, metelobioleg, eco-wenwynig-genomeg.
Dr Rob Thomas - Dirrwy Bennaeth yr Is-Adran, DysguYmddygiad anifeiliaid mewn amgylcheddau sy'n newid, cadwraeth yn ymarfero
Dr Cedric BergerRhyngweithiadau organeb letyol - pathogen, microbioleg foleciwlaidd a chellog.
Yr Athro Colin BerryTargedau ensymau ar gyfer cyffuriau gwrthfarasitig. Tocsinau protein pryfleiddiol o rywogaethau Bacillus.
Dr Kelly BéruBéTocsicogenomeg llygryddion yn yr awyr.
Dr Tom Rhys BishopPatrymau bioddaearyddol o rywogaethau, amrywiaeth swyddogaethol a ffisenetig mewn morgrug, infertebratau ac ectothermau.
Yr Athro Lynne BoddyEcoleg gymunedol ffwngaidd, patholeg coedwig, defnyddio rhwydweithiau niwral wrth adnabod rhywogaethau.
Dr Helen BrownRhyngweithio rhwng gwesteiwyr a microbau, pathogenau oportiwinstaidd, cymunedau bioffilm
Dr Elizabeth ChadwickProsiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd.
Dr Sarah ChristofidesEcoleg meintiol, ecoleg gymunedol ficrobaidd a diogelwch bwyd
Yr Athro Tom ConnorGenomeg poblogaeth pathogenau bacteriol, biowybodeg a microbioleg drosiadol.
Yr Athro Isabelle DuranceEcoleg ecosystem, ecoleg dirweddau, cynaliadwyedd.
Yr Athro Benoît GoossensEsblygiad moleciwlaidd, ecoleg foleciwlaidd ac ecoleg ymddygiadol.
Dr Siân GriffithsBioleg pysgod, ecoleg ymddygiadol.
Dr Frank HailerEcoleg foleciwlaidd. Geneteg esblygiadol. Bioleg cadwraeth. Ffyloddaeareg. Croesrywedd. Mamaliaid, adar.
Dr Hefin JonesEcoleg gymunedol, newid yn yr hinsawdd, entomoleg, ecoleg ficrobaidd/bridd.
Dr Rhys Jones (Addysgu ac Ysgolheictod)Herpetoleg.
Dr William Kay (Addysgu ac Ysgolheictod)Tiwtor mewn Ystadegau a Dadansoddi Data
Dr Joanne LelloBioleg cyd-heintio, perthnasau organeb letyol -pathogen, ecoleg gymunedol.
Yr Athro David Lloyd (Anrhydeddus)Microbioleg ewcaryotig, rheoli metaboledd ynni; osgiliadau, rhythmau a chlociau.
Yr Athro Esh Mahenthiralingam Clefydau heintus bacteriol a microbioleg foleciwlaidd.
Yr Athro Julian Marchesi (Anrhydeddus)Microbioleg y perfedd, cyfryngau bioactif o sbyngau morol.
Dr Carsten Müller - Tiwtor Ôl-raddedig RhanbartholEcoleg gemegol, cemeg amgylcheddol, rheoli gwastraff.
Yr Athro Steve OrmerodEcoleg dalgylch afonydd a bioleg adar.
Dr Pablo Orozco-terWengelGenomeg, addasu, cadwraeth.
Dr Sarah PerkinsEcoleg afiechydon bywyd gwyllt, gwyddoniaeth rhwydwaith, dynameg heintiau amser real gan ddefnyddio gohebwyr, rhywogaethau goresgynnol ecoleg.
Dr Peter Randerson (Addysgu ac Ysgolheictod)Ecoleg tirweddau.
Dr Isa-Rita RussoGeneteg/genomeg tirwedd a geneteg cadwraeth
Dr Julia Sanchez VilasEcoleg ac esblygiad systemau rhywiol planhigion, dimorffiaeth rywiol, cost atgenhedlu, ymatebion planhigion i straen, ecoffisioleg planhigion, dynameg poblogaeth planhigion.
Dr Islam SobhyRhyngweithio rhwng planhigion, microbau a phryfed, ecoleg gemegol, amddiffyn planhigion a diogelu cnydau.
Dr David StantonPalaeogeneteg, DNA hynafol, geneteg esblygiadol, bioleg cadwraeth
Dr Ian VaughanEcoleg gymunedol a dŵr croyw
Yr Athro Andy WeightmanAddasiad genynnol microbau i heriau amgylcheddol, microbioleg foleciwlaidd is-wynebol, systemateg foleciwlaidd a metagenomeg.
Dr Catrin WilliamsCanfod a thrin pathogenau; microbïom y perfedd; bioelectrofagnetig.
Dr Fredric WindsorEcoleg rhwydweithiau, ecosystemau dŵr croyw, newid amgylcheddol