Niwrowyddoniaeth
Mae’r Niwrowyddorau yn ymdrechu i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r ffordd mae system nerfol iach yn gweithio yn ogystal â’r mecanweithiau sy’n arwain at glefydau niwrolegol, sef maes y mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill ei phlwyf ynddo yn rhyngwladol.
Meysydd ymchwil
Nod ein hymchwil niwrolegol yw troi gwybodaeth am y mecanweithiau sylfaenol yn therapïau ffarmacolegol sy’n seiliedig ar gelloedd ac yn arferion clinigol gwell.
Mae ein gwaith yn y maes hwn yn canolbwyntio ar dair thema benodol:
- Bioleg synaptig - deall ystwythder, trefniant a swyddogaeth niwronau.
- Bioleg niwrogellog a niwroddatblygiadol - deall y prosesau datblygiadol a chellog sy’n sail i weithrediad iach yr ymennydd a mecanweithiau clefydau.
- Niwrowyddoniaeth systemau - ymhelaethu ar y cylchedau a’r gysylltomeg sy’n achosi swyddogaeth yr ymennydd.
Sefydliadau ymchwil
Mae cysylltiadau cryf rhwng yr is-adran Niwrowyddorau a Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, yn ogystal â’r Sefydliad Ymchwil ar Ddementia a’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau newydd.
Ceisiadau ar gyfer PhD a Chymrodoriaeth
Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr cymrodoriaeth sydd â’r un diddordebau â meysydd ymchwil yr is-adran gysylltu. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â biosi-research@caerdydd.ac.uk
Rydyn ni hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr PhD sydd â diddordebau ymchwil sy'n cyd-fynd â'n meysydd ymchwil strategol.
Cysylltwch â biosi-pg@cardiff.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Aelodau’r staff
Dyma restr o’r holl staff academaidd yn yr is-adran hon. Defnyddiwch y manylion cysylltu ar ein tudalennau unigol neu e-bostiwch biosi-research@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio gyda ni.
Enw | Maes diddordeb |
---|---|
Yr Athro Nick Allen - Pennaeth yr Is-adran | Mecanweithiau gwahaniaethu niwral yn achos bôn-gelloedd embryonig pobl a llygod gyda'r nod o ddatblygu protocolau i gyfeirio'r broses o wahaniaethu rhwng celloedd epiliol niwral i gaffael tynghedau a ffenoteipiau niwral penodol. |
Yr Athro Adrian Harwood - Dirprwy Bennaeth yr Is-adran | Bioleg niwro-gelloedd, anhwylderau meddyliol a chyffuriau seicotropig. |
Dr Maxime Assous | Dylanwad derbynyddion nicotinig mewn cylchedau striatal. |
Yr Athro John Atack | Adnabod a datblygu cyffuriau newydd i drin anhwylderau seiciatrig a niwroddirywiol, megis sgitsoffrenia, anhwylderau gorbryder, clefyd Alzheimer a chlefyd Huntington. |
Dr Benjamin Bax | Defnyddio’r broses o ddylunio cyffuriau dan arweiniad strwythur i greu meddyginiaethau newydd i wella iechyd pobl. |
Yr Athro Riccardo Brambilla | Rolau llwybrau signalu mewngellol wrth ddysgu ac yn y cof. |
Yr Athro Vincenzo Crunelli | Mecanweithiau moleciwlaidd, genetig a chellog sy'n gweithio mewn niwronau sengl a rhwydweithiau niwronaidd y thalamws a'r cortecs yn ystod mynegiant gwahanol gamau o gwsg a chynhyrchu syndromau epileptig. |
Yr Athro Alun Davies FRS (Anrhydeddus) | Datblygiad niwronau fertebratau. |
Yr Athro Kevin Fox | Y mecanweithiau moleciwlaidd a chellog sy'n sail i brosesu synhwyraidd a phlastigrwydd synaptig yn y cortecs cerebrol. |
Yr Athro William Gray | Ymchwil glinigol ym maes epilepsi, yr hipocampws, dysgu a'r cof. |
Dr Mariah Lelos | Deall newidiadau niwropatholegol clefyd Parkinson a Huntington a'r effaith ar swyddogaethau gwybyddol. Ymchwilio i ymyraethau therapiwtig, gan gynnwys therapïau celloedd a genynnau. |
Yr Athro Meng Li | Manyleb isdeipiau niwronaidd bôn-gelloedd lluosbotensial, eu defnydd wrth egluro sail gellog anhwylderau meddyliol, a therapi celloedd ar sail trawsblannu. |
Y Dr Emyr Lloyd-Evans | Egluro swyddogaeth lysosomau ym maes iechyd a chlefydau. |
Dr Guy Major | Y cyfrifiannau sylfaenol a wna rhwydweithiau niwral bach, gan gynnwys cynhyrchu sbigynnau lleol, posibilrwydd llwyfandiroedd a detholusrwydd cyfeiriad mewn dendridau niwronau pyramidaidd cortigol sengl. |
Dr Isabel Martinez-Garay | Mecanwaith cellog a moleciwlaidd datblygu cortigol. |
Dr David McGonigle | Swyddogaeth y system somatosynhwyraidd ym maes iechyd a chlefydau, cydberthyniadau niwral hyfforddiant sgiliau a dysgu canfyddiadol systemau synhwyraidd. |
Dr Owen Peters | Mecanweithiau moleciwlaidd sy'n gysylltiedig â niwroddirywio a chynnal a chadw'r ymennydd sy'n heneiddio. |
Yr Athro Anne Rosser | Cyd-gyfarwyddo Grŵp Trwsio'r Ymennydd sydd â'r nod o ddatblygu therapïau sy’n seiliedig ar gelloedd ar gyfer clefydau niwroddirywiol, yn enwedig clefyd Huntington a chlefyd Parkinson, yn seiliedig ar drawsblannu celloedd y ffetws, celloedd epiliol a bôn-gelloedd cynradd yn yr ymennydd. |
Dr Yasir Ahmed Syed | Modelu bôn-gelloedd anhwylderau niwrolegol. |
Dr Arturas Volianskis | Rhan amlgymharus derbynyddion metabotropig glwtamad yn storio ysgogiadau byrdymor sy’n ddibynnol ar dderbynyddion. |
Dr Helen Waller-Evans | Darganfod cyffuriau sy'n targedu proteinau lysosomaidd i ddatblygu therapïau ar gyfer clefydau niwroddirywiol |
Dr Alan Watson (Addysgu ac Ysgolheictod) | Sail ffisiolegol perfformiad cerddorol, problemau cyhyrysgerbydol cerddorion, cylchedwaith synhwyraidd y corn dorsal, niwroetholeg infertebratau. |
Dr Tim Wells | Rheoleiddio prosesau niwroendocrinau ac endocrinau fesul statws metabolig, gyda diddordeb penodol yn y ffordd mae ghrelin yn gweithio. |
Dr Sean Wyatt | Ymchwilio i’r ffordd y mae proteinau a secretir yn rheoleiddio gwahaniaethu niwronau, yn goroesi ac yn creu cysylltiadau niwral yn systemau nerfol esblygol fertebratau. |
Dr Emma Yhnell (Addysgu ac Ysgolheictod) | Deall y prosesau sy'n sail i gyflyrau niwroddirywiol megis clefyd Huntington, clefyd Parkinson a chlefyd Alzheimer a'r symptomau cysylltiedig sy'n cael eu hachosi. Cyfleu gwyddoniaeth ac ymgysylltu â'r cyhoedd i eirioli dros bobl yr effeithir arnynt i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o ymchwil. |
Mae manylion llawn am ein rhaglenni PhD a MRes, yn cynnwys sut i ymgeisio, ar gael yn y darganfyddwr cwrs.