Ewch i’r prif gynnwys

Biowyddorau moleciwlaidd

Nod y Biowyddorau Moleciwlaidd yw deall mecanweithiau moleciwlau a chelloedd bywyd, gyda chymwysiadau ym meysydd iechyd, diogelwch bwyd a datblygiad technolegol.

ae’r gwaith ymchwil hwn yn integreiddio ymchwil fiolegol sylfaenol, ac yn datblygu’r technegau diweddaraf ym maes biodechnoleg a modelu, er mwyn i ni fedru rhagfynegi sut bydd systemau biolegol yn ymateb i newid.

A closeup of some molecular structures.

Meysydd ymchwil

Mae ein hymchwil fiofeddygol yn cwmpasu tri phrif faes ffocws:

  • Deall systemau moleciwlaidd a chellog – defnyddio dulliau biogemegol, strwythurol a phenoteipio cellog i ddeall swyddogaeth fiolegol ar lefel y moleciwl
  • Bioleg ddatblygiadol a modelu – defnyddio dulliau amlraddfa i ddeall a modelu prosesau datblygiadol a bôn-gelloedd mewn organebau enghreifftiol allweddol megis pryfed a phlanhigion
  • Delweddu a pheirianyddu systemau biolegol – defnyddio dulliau rhyngddisgyblaeth mewn bioleg, ffiseg a chemeg i ddelweddu a chreu systemau biolegol

Cydweithrediadau

Mae gennym gysylltiadau agos gyda Chemeg mewn bioleg strwythurol a gyda Ffiseg yn natblygiad technolegau delweddu uwch, ac yn cydweithio’n fyd-eang gyda phartneriaid diwydiannol ac academaidd.

Mae is-adran y Biodwyddorau Moleciwlaidd hefyd yn arwain pump o’r saith Canolbwynt Ymchwil Technoleg yn Ysgol y Biowyddorau, gan adlewyrchu ei chryfderau technolegol.

Ceisiadau PhD a Chymrodoriaeth

Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr cymrodoriaeth sydd â diddordebau sy’n mapio ar y meysydd ymchwil adrannol gysylltu.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr PhD sydd â diddordebau ymchwil sy’n gweddu i’n meysydd ymchwil strategol.

Cysylltwch â biosi-pg@caerdydd.ac.uk am fwy o wybodaeth.

Aelodau staff


EnwMaes diddordeb
Yr Athro Trevor Dale - Pennaeth yr Is-AdranSignalau Wnt a chanser y fron.
Yr Athro Hilary Rogers - Cyd-Ddirprwy Bennaeth yr Is-adranBioleg celloedd moleciwlaidd planhigion: mecanweithiau synhwyro a chylch celloedd.
Yr Athro Paola Borri (Ffiseg)Bioffotoneg a thechnegau newydd ar gyfer sganio microsgopeg
Dr Barend HJ de GraafRhyngweithio Pistil-Paill a Masnachu Pilenni.
Dr Walter DewittePatrwm a thwf planhigion; rheolyddion twf planhigion a rhannu celloedd.
Dr Veronica Grieneisen 
Dr Fisun HamaratogluSignalau celloedd-celloedd wrth ddileu celloedd, rheoli twf a chanser
Dr Patrick HardingeDiagnosteg moleciwlaidd gan ddefnyddio chwyddo asid niwcleig isothermal, dilyniannu a microhylifeg ar gyfer canfod clefydau heintus.
Dr Nathan Harmston 
Dr Angharad Jones 
Yr Athro Dafydd JonesPlastigrwydd strwythurol a swyddogaethol protein; strwythur a swyddogaeth proteas.
Dr Tomasz Jurkowski 
Dr Nick KentStrwythur a swyddogaeth cromatin.
Dr Sarah Langley 
Dr Tamara Lechon Gomez 
Dr Sonia Lopez de Quinto (Addysgu ac Ysgolheictod)Rheoliad RNA trwy leoleiddio gofodol.
Dr Francesco MasiaDatblygu algorithmau ar gyfer dadansoddi delweddau a dylunio biosynhwyrau lab-ar-sglodyn.
Dr Georgina MenziesStrwythurau biolegol fel proteinau, DNA a mwcins gan ddefnyddio technegau modelu moleciwlaidd.
 
Yr Athro Jim MurrayDatblygiad cellog planhigion; biotechnoleg planhigion a moleciwlaidd.
Dr Josie ParkerCytochrome P450s a mecanweithiau ymwrthedd gwrthffyngaidd.
Dr Zoe Prytherch (Addysgu ac Ysgolheictod)Human in vitro lung models.
Dr Steve Rutherford (Addysgu ac Ysgolheictod)Bioleg celloedd moleciwlaidd planhigion; masnachu cofiadwy; addysg.
Dr Simon ScofieldRhwydweithiau trawsysgrifiadol mewn celloedd bonyn planhigion a chylchedau genetig synthetig.
Dr Andrew Shore (Addysgu ac Ysgolheictod)Epigeneteg a Thermogenesis, dysgu cydweithredol mewn Addysg Uwch, dysgu gwell technoleg, asesiad meintiol o lwyddiant mewn addysg uwch, esblygiad cymwysterau mynediad yn seiliedig ar gyrhaeddiad mewn Addysg Uwch, datblygu cwricwla ysgolion a cholegau i gefnogi'r broses o bontio i Addysg Uwch.
Dr Henrietta Standley (Addysgu ac Ysgolheictod)Bioleg ddatblygiadol.
Dr Glen Sweeney (Addysgu ac Ysgolheictod)Trosglwyddiadau datblygiadol mewn pysgod a ffermir; prosesu RNA; addysg.
Dr Mike TaylorRhaglenni gwahaniaethu celloedd.
Dr Wynand Van der Goes van NatersSail Molecwlaidd systemau synhwyraidd mewn pryfed.
Dr Peter Watson Masnachu protein a lipid.
Yr Athro Helen White-Cooper - Cyfarwyddwr YmchwilRheoleiddio genynnau mewn datblygu sberm yn Drosophila.
Dr Helen Woodfield (Addysgu ac Ysgolheictod) 

Dr Mark Young (Arweinydd, Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir)

Bioleg strwythurol protein bilen.