Diogelu rhywogaethau arbennig sydd mewn perygl yn Borneo
Mae coedwig law Borneo yn gilfach hollbwysig i fywyd gwyllt sydd mewn perygl a than fygythiad oherwydd colli cynefinoedd a photsio. Gan ddefnyddio eu harbenigedd ym maes mapio cynefinoedd, penderfynodd ymchwilwyr yng Nghanolfan Maes Danau Girang (DGFC) Prifysgol Caerdydd sut mae eliffantod Borneo, bantengiaid Borneo, mwncïod trwynol a llewpardiaid cymylog Sunda yn defnyddio coedwig ddarniog yn Sabah. Arweiniodd hyn at fesurau cadwraeth newydd, gyda chefnogaeth y wladwriaeth, a buddsoddiad i warchod y pedair rhywogaeth allweddol hyn.
Cyllid ar gyfer adfer ac ailblannu coedwigoedd
Darparodd ymchwil y DGFC dystiolaeth hollbwysig bod angen dulliau newydd o reoli coedwigoedd i ddiogelu pob un o'r pedair rhywogaeth. Ynghyd ag Adran Bywyd Gwyllt Sabah (sef awdurdod allweddol y llywodraeth ar gyfer gwarchod bywyd gwyllt), fe wnaethant greu Cynlluniau Gweithredu Gwladol yn amlinellu camau allweddol i gefnogi pob rhywogaeth. Ymhlith ei argymhellion y mae:
- gwella cysylltedd rhwng yn y dirwedd;
- gweithio gyda chyrff anllywodraethol, y diwydiant olew palmwydd a chymunedau lleol i adfeddiannu planhigfeydd olew palmwydd tangynhyrchiol a'u troi’n goedwigoedd sy'n addas i eliffantod ac i rywogaethau eraill Borneo;
- atal colli unrhyw gynefin addas i fantengiaid (ardaloedd glaswelltog a hesg agored a chysgod coedwigoedd) a datblygu a chynnal porfeydd o fewn yr ystod o fuchesi presennol;
- cynyddu ardaloedd mangrof a choedwigoedd torlannol sy'n addas ar gyfer mwncïod trwynol;
- atal colli a diraddio cynefinoedd a ddefnyddir gan lewpardiaid cymylog Sunda (er enghraifft gorchudd canopi coedwig).
Buddsoddodd Llywodraeth Sabah £7 miliwn dros gyfnod o ddeng mlynedd i gyflawni’r camau hyn, a dechreuodd y cam cyntaf yn y broses o ailgoedwigo yn 2019, gan blannu miliwn o goed ar dros 4,000 hectar o goedwig ddiraddedig. Yn y cyfamser, mae tîm DGFC yn gweithio gyda'r gymuned leol i ailblannu coedwigoedd, ynghyd â'i bartner KOPEL Bhd, NGO (corff anllywodraethol) sy'n cynrychioli pedwar pentref lleol ac yn cynnal bywoliaethau cynaliadwy.
Mae'r Cynlluniau Gweithredu hefyd yn gweithredu fel fframwaith a ddefnyddir wrth ailblannu gan gyrff anllywodraethol eraill a'r llywodraeth. Yn 2020, prynodd Cronfa Rhino a Choedwigaeth ac Adran Bywyd Gwyllt Sabah blanhigfa palmwydd olew 65 hectar gyda’r nod o ailblannu ynddi. Bydd hyn yn creu cysylltiad eto rhwng dwy ardal allweddol o goedwig warchodedig a bydd o fudd i eliffantod a bantengiaid Borneo.
Diogelu rhag potsio
Mae Adran Goedwigaeth Sabah yn gartref i’r Tîm Diogelu, sy’n monitro dwy filiwn hectar o ardaloedd cadwraeth gwarchodedig. Nod y Tîm yw lleihau gweithgareddau coedwigaeth anghyfreithlon a thresmasu mewn gwarchodfeydd coedwigoedd, potsio a masnachu mewn bywyd gwyllt.
Ym mis Mehefin 2019, o ganlyniad i’r argymhellion gorfodi yn y Cynlluniau Gweithredu, rhoddodd Sefydliad Sime Darby £750K i’r Tîm Diogelu. O ganlyniad i hynny, gwnaeth y 25 o geidwaid a dadansoddwyr troseddau newydd a gyflogwyd ganddynt hwb i allu'r Tîm i leihau potsio, yn enwedig o fewn y cronfeydd coedwigoedd.
Defnyddiwyd £750K arall, a rhoddwyd gan Swyddfa Materion Cyffuriau Rhyngwladol a Gorfodi'r Gyfraith Adran Wladol yr UDA, i ariannu Uned Gudd-wybodaeth newydd yn Adran Bywyd Gwyllt Sabah. Trwy greu labordy fforensig genetig bywyd gwyllt newydd, a chronfa ddata troseddau bywyd gwyllt, bydd yr Uned yn gallu rhoi manylion i asiantaethau rhyngwladol am anifeiliaid neu nwyddau coedwig a fasnachwyd yn anghyfreithlon.
Yn 2020 heb sôn am flynyddoedd eraill, cymerwyd 200 o gamau gorfodi, gan arwain at tua 70 o arestiadau, o erlyniadau llwyddiannus am feddu ar ysgithrau eliffantod ac atafaelu gwerth £560K o gynhyrchion coedwig a gafwyd yn anghyfreithlon.
Sut gwnaethon nhw hynny
Dadansoddodd ymchwilwyr DGFC ecoleg ofodol y pedwar anifail sydd mewn perygl. Gan ddefnyddio trapiau camera, lloeren, tracio telemetreg GPS a thechnoleg LiDAR, yn ogystal â defnyddio dronau, roeddent yn gallu modelu sut roedd pob rhywogaeth yn defnyddio'r goedwig. Darparodd hyn dystiolaeth fod amddiffyn coedwigoedd aeddfed a diraddiedig, yn ogystal ag ailblannu coed i wneud coridorau bywyd gwyllt (gan ganiatáu i anifeiliaid symud rhwng rhannau o goedwigoedd presennol) i gyd yn hanfodol i'w goroesiad.
Ymgyrchu llwyddiannus dros ddatblygu tir mewn modd sensitif
Arweiniodd ymchwil Prifysgol Caerdydd i symudiadau eliffantod Borneo i'r Athro Goossens, fel Cyfarwyddwr DGFC, ymgyrchu'n gryf yn erbyn y bwriad i adeiladu pont dros afon Sukau, a fyddai'n darnio cynefin yr eliffant ymhellach. Cododd yr ymgyrch hon broffil y mater, gan ddenu cefnogaeth Syr David Attenborough, ac o ganlyniad, cafodd y bont ei dileu.
Yn seiliedig ar ddata ymchwil DGFC, ac yn dilyn cyngor gan Coalition 3H (Bodau Dynol, Cynefinoedd, Priffyrdd), mae llywodraeth Sabah bellach yn ystyried sefydlu llwybr ar gyfer Priffordd Traws Borneo. Roedd y Briffordd i fod i fynd ar draws gwarchodfeydd coedwig mangrof a nodwyd gan dîm Caerdydd fel y cynefin olaf sydd ar ôl i'r mwnci trwynol, yn ogystal â gwarchodfeydd coedwig sy'n hanfodol ar gyfer eliffantod Borneo a llewpardiaid cymylog Sunda. Byddai adeiladu'r Briffordd yn yr ardaloedd hynny wedi niweidio'r cynefinoedd pwysig hyn ac wedi arwain at ddirywiad yn y rhywogaethau sydd dan fygythiad.
Ffeithiau allweddol
- Mae eliffantod Borneo yn cael eu hystyried yn rhai sydd mewn perygl ar Restr Goch o Rywogaethau Dan Fygythiad yr IUCN (Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur). Amcangyfrifir bod rhwng 1-1.6 mil ar ôl yn Sabah.
- Mae banteng Borneo yn rhywogaeth o wartheg gwyllt a geir yn Borneo. Nhw yw’r mamal mawr sydd dan y perygl mwyaf yn Sabah, a chredir mai hwn yw ei gadarnle olaf.
- Mae llewpard cymylog Sunda yn un o gathod mawr prinnaf a lleiaf ei hastudio yn y byd. Mae Sabah yn gartref i 750 o unigolion.
Cwrdd â'r tîm
Cysylltiadau Allweddol
Yr Athro Benoît Goossens
- goossensbr@cardiff.ac.uk
- +60 (0)12 8364 005
Cyhoeddiadau
There was an error trying to connect to API. Please try again later. HTTP Code: 500