Darganfyddiad ynghylch ocapïod (okapi) yn arwain at greu parc cenedlaethol
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Cyfrannodd mapio genetig yr anifail at sefydlu Parc Cenedlaethol Lomami, uwchraddio statws yr IUCN a'r strategaeth cadwraeth ocapïod gynhwysfawr gyntaf
Mor brin roedd ein gwybodaeth am ocapïod, o'u niferoedd poblogaeth yn y gwyllt i'w hamrywiaeth genetig (dangosydd o wydnwch rhywogaethau) fel yr oedd yn amhosibl datblygu strategaethau llwyddiannus ar gyfer eu diogelu.
Roedd ymchwilwyr o Gaerdydd yn gyfrifol am greu’r gronfa ddata genomeg gyntaf i fesur amrywiaeth ocapïod, gan ddefnyddio samplau o anifeiliaid caeth a gwyllt. Cynhaliodd y Cydymaith Ymchwil Dr David Stanton a thîm mawr o ecolegwyr ocapïod arolwg o ocapïod yn eu cynefin brodorol yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo, gan ddangos bod eu hamrediad yn llawer pellach nag a oedd yn hysbys o'r blaen. Roeddent hefyd yn datgelu problemau sylweddol mewn poblogaethau bridio caeth yn Ewrop a'r Unol Daleithiau.
Creu parc cenedlaethol Lomami
Gweithiodd Dr Stanton gyda phrosiect TL2 yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo i gynnal arolwg o ardal heb ei harchwilio o goedwig Gongolaidd, y credir ei bod ymhell y tu hwnt i amrediad traddodiadol ocapïod,
Casglwyd samplau o dom ar gyfer dadansoddiad genetig ac roeddent yn gallu profi am y tro cyntaf bod yr anifeiliaid yn byw mewn parth i'r de o afon Congo.
Roedd y darganfyddiad hwn yn cyfrannu at sefydlu Parc Cenedlaethol Lomami yn 2016 gan Lywodraeth Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo - y parc cenedlaethol cyntaf i'w greu yn yr ardal am dros 40 mlynedd.
Yn ogystal â chefnogi’r gwaith o warchod ocapïod,, roedd y Parc hefyd yn rhoi amddiffyniad i rywogaethau eraill sydd mewn sefyllfa gritigol, gan gynnwys eliffantod coedwig, bonobo, y peunod Congolaidd a ddarganfuwyd yn ddiweddar (yr unig gynrychiolydd Affricanaidd o'r paun) a phrimat nad oedd yn hysbys gynt, y leswla.
Mae’n arwyddocaol mai Parc Cenedlaethol Lomami yw'r ardal warchodedig gyntaf i'w sefydlu mewn modd cyfranogol, wedi'i hwyluso gan brosiect TL2 a’r Institut Congolaise pour la Conservation de la Nature. Mae cadwraethwyr a'r llywodraeth yn gweithio gyda chymunedau lleol i ddiogelu'r parc a chynnal bywoliaethau cynaliadwy.
Bridio caeth gwell
Mae rhaglenni bridio caeth yn hanfodol i oroesiad rhywogaethau sydd mewn perygl.
Roedd ymchwil gan Dr Stanton a'r Athro Mike Bruford yn dangos bod amrywiaeth genetig sylweddol wedi'i golli o raglenni bridio ocapïod, er gwaethaf y gwaith o reoli mewnfridio.
Trwy ddefnyddio offer genetig, roeddent yn gallu helpu rhaglenni yn Ewrop a'r Unol Daleithiau i wneud dewisiadau bridio gwell, gan wneud y mwyaf o hyfywedd hirdymor y rhywogaeth.
Trawsnewidiodd yr ymchwil y rhaglen fridio gaeth yn Ewrop, mewn cydweithrediad â Sŵ Antwerpen (cartref i Geidwad y Llyfr Gre Rhyngwladol ar gyfer Ocapïod gyda chofnodion genetig o bob ocapi sydd erioed wedi byw mewn sŵ) a'r rhaglen fridio Ewropeaidd (EAAP).
Diweddaru statws cadwraeth yr IUCN
O ganlyniad i'r ymchwil, newidiodd yr IUCN statws yr ocapi o Bron dan fygythiad i Mewn Perygl yn 2013, gan alluogi mynediad hanfodol i gyllid ar gyfer cadwraeth.
Dilynwyd hyn gan y strategaeth gadwraeth ocapïod fyd-eang gyntaf erioed, a ysgrifennwyd gan Grŵp Arbenigol Jiraffod yr IUCN, a oedd yn cynnwys Dr Stanton a'r Athro Bruford, gan alw am ddiogelu ardaloedd cadwraeth Congolaidd allweddol rhag ymosodiadau gan filisiau a gweithgareddau anghyfreithlon.
Ffeithiau allweddol
- Mae ocapïod yn perthyn i jiraffod, ac maent yn greaduriaid swil sy’n hoffi bod ar eu pennau eu hunain.
- Mae cymunedau lleol yn eu hystyried yn sanctaidd, ac mae'r IUCN yn eu dynodi'n rhywogaeth flaenllaw (rhywogaeth dan fygythiad y gall ei gwarchod fod o fudd i rywogaethau eraill)
- Fodd bynnag, maent dan fygythiad oherwydd diwydiannau fel mwyngloddio ac ymosodiadau gan filisiau
Related links
Related links
Meet the team
Publications
- Stanton, D. W. G. et al. 2016. Non-invasive genetic identification confirms the presence of the endangered okapi Okapia Johnstoni south-west of the Congo River. Oryx 50 (1), pp.134-137. (10.1017/S0030605314000593)
- Stanton, D. W. G. et al. 2015. Genetic structure of captive and free-ranging okapi (Okapia johnstoni) with implications for management. Conservation Genetics 16 (5), pp.1115-1126. (10.1007/s10592-015-0726-0)
- Stanton, D. W. G. et al. 2015. Enhancing knowledge of an endangered and elusive species, the okapi, using non-invasive genetic techniques. Journal of Zoology 295 (4), pp.233-242. (10.1111/jzo.12205)
- Stanton, D. W. G. et al. 2014. Distinct and diverse: range-wide phylogeography reveals ancient lineages and high genetic variation in the endangered okapi (Okapia johnstoni). PLoS ONE 9 (7) e101081. (10.1371/journal.pone.0101081)
- Stanton, D. W. G. et al. 2010. Microsatellite loci for the okapi (Okapia johnstoni). Conservation Genetics Resources 2 (Supp 1), pp.337-339. (10.1007/s12686-010-9235-0)