Gwneud gwahaniaeth yn Ysgol y Biowyddorau
Mae ein hymchwil yn cael effaith wirioneddol ar draws sawl maes, gan fynd i'r afael â heriau byd-eang mawr, gan geisio darparu atebion newydd sydd ag effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol fawr.
Uchafbwyntiau effaith
Uchafbwyntiau ymchwil
‘Cemegau gwenwynig am byth’ wedi’u canfod mewn dyfrgwn ledled Cymru a Lloegr – ymchwil newydd
Mae’r astudiaeth, dan arweiniad Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd, yn awgrymu bod dyfroedd croyw Prydain yn cael eu ‘llygru’n helaeth’.
Astudiaeth afon 30 mlynedd yn canfod argyfwng difodiant sydd heb ei ystyried
Mae newid byd-eang yn achosi i rywogaethau dŵr croyw ddiflannu ddwywaith yn gyflymach nag mewn unrhyw ecosystem arall, ac mae gwaith ymchwil newydd, sydd wedi bod yn astudio afonydd a nentydd Cymru ers dros 30 mlynedd, wedi canfod bod nifer o infertebratau arbenigol yn diflannu.
Dychwelyd rhywogaethau eryr coll i Gymru
Gallai ymchwil a gynhelir yng Nghymru arwain at ddychweliad rhywogaethau eryr coll i’n cefn gwlad, gan ddod â manteision cadwraeth ac economaidd.
Mwy o wybodaeth am ein cyflwyniadau a gweld y canlyniadau.