Ewch i’r prif gynnwys

Symposiwm Niwrowyddoniaeth DU-Japan 2023

UK-Japan Neuroscience Symposium 2023

Cynhelir 5ed symposiwm Niwrowyddoniaeth DU-Japan yng Nghyrchfan y Fro (Vale Resort), Cymru (DU), wedi ei noddi ar y cyd gan y Cyngor Ymchwil Meddygol (DU) ac AMED (Japan).

Dyddiad31 Awst - 2 Medi 2023
YsgrifenyddCyrchfan y Fro (Vale Resort), Pontyclun. CF72 8JY.  Gweld ar y map.

Nod y cyfarfod yw dod â gwyddonwyr blaenllaw o’r DU a Japan at ei gilydd i gyflwyno sgyrsiau a meithrin trafodaeth yn y meysydd diweddaraf o ymchwil niwrowyddoniaeth sylfaenol a chymhwysol mewn meddygaeth.

Bydd y cyfarfod tri diwrnod yn ymdrin â phynciau mewn pum prif sesiwn ar glefyd Motor Niwron/Dementia blaen-arleisiol, anhwylderau niwroseiciatrig a seiciatreg gyfrifiadol, dulliau newydd a thechnoleg newydd, cylchedau ac ymddygiad, a chlefydau Parkinson ac Alzheimer.

Bydd sesiwn bosteri yn dilyn blits poster, dwy sgwrs gan enillwyr y gwobrau poster o’n cyfarfod blaenorol yn Karuizawa yn Japan a dwy sgwrs lawn, un gan yr Athro Trevor Robbins (Prifysgol Caergrawnt) a’r llall gan yr Athro Haruhiko Bito (Ysgol Raddedig Meddygaeth ym Mhrifysgol Tokyo).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Symposiwm Niwrowyddoniaeth DU-Japan 2023