Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres seminarau

Mewn ymgais i ehangu ein diwylliant ymchwil ar y campws yn dilyn y pandemig, bydd yr Ysgol yn cynnal cyfres newydd o seminarau o fis Hydref 2022.

Cynhelir y seminarau bob dydd Mawrth am 13:10. Bydd te a choffi i ddilyn yn C/1.21.

Dewiswyd y siaradwyr ar sail eu gallu i gyflwyno i set eang o fyfyrwyr ac ymchwilwyr yn y gwyddorau biolegol. Er mwyn sicrhau bod y deunydd o ddiddordeb i bawb ac yn apelio at bob aelod o’r gynulleidfa, bydd cefndir cyffredinol ac ehangach y maes ymchwil yn cael ei gyflwyno yn gyntaf. Yna, fe gyflwynir ymchwil gyfredol ac ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi. Isod, fe ddangosir y dyddiadau fesul is-adran.

Mae unrhyw ddeunydd paratoi, lle y'i darperir, wedi'i anelu at fyfyrwyr Gradd Feistr Integredig. Efallai na fydd pob dolen yn gweithio ar gyfer defnyddwyr eraill.

Dyddiad / AmserSiaradwr
Teitl
LleoliadIs-adranCyflwynydd
28 Mai 2024
13:10
Yr Athro Wendy NobleCyfraniadau astrocytau at gael gwared ar agregau tau ynghlwm â chlefyd Alzheimer a thauopathïau eraill.C/-1.04NeuroDr Georgina Menzies/Dr Mark Young
11 Meh 2024
13:10
Dr Bethan Lloyd-LewisPenderfyniadau deinamig: Tynged celloedd epithelaidd bronnol wrth i fod dynol ddatblygu ac wrth i afiechyd ddatblygu.C/-1.04MolbDr Francesco Masia
18 Meh 2024
13:10

Yr Athro Ted Turlings

Manteisio ar ecoleg gemegol rhyngweithio tritroffig i ddiogelu cnydauC/-1.04OnEDr Islam Sobhy
25 Meh 2024
13:10
Yr Athro Mirela DelibegovicYmyriadau newydd ar gyfer trin diabetes a chlefydau cardiofasgwlaidd.C/-1.04BiomedYr Athro Ros John