Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol
Gellir astudio pob un o'n cyrsiau gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (neu 'Ryngosod'), a gaiff ei threulio ar leoliad mewn sefydliad perthnasol.
Mae’n ffordd wych i gael profiad ymchwil ymarferol gwerthfawr, a gall fod o fantais i chi ar gyfer gweddill eich gradd a'ch gyrfa ar ôl gadael y brifysgol.
Yn ystod eich blwyddyn ryngosod, byddwch yn ymgymryd â phob agwedd ar ymchwil - o ddylunio arbrofol a chaffael data, i ddadansoddi data a chyflwyno. Byddwch hefyd yn ysgrifennu adroddiad ar y lleoliad gwaith, fydd yn rhan o'ch asesiad gradd terfynol.
Amrywiaeth eang o leoliadau gwaith
Mae ein myfyrwyr yn dod o hyd i leoliadau gwaith mewn ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys cwmnïau fferyllol a biodechnegol, labordai ysbytai, sefydliadau ymchwil, amgueddfeydd, sŵau, ymddiriedolaethau bywyd gwyllt, a sefydliadau amgylcheddol eraill, yn ogystal â phrifysgolion yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae llawer o'r lleoliadau yn y DU ond mae nifer cynyddol mewn mannau tramor fel De-ddwyrain Asia, De Affrica, yr Almaen, yr Eidal, Awstralia, Madagascar a'r Unol Daleithiau.
Ymhlith y sefydliadau sydd wedi cynnig lleoliadau gwaith yn ddiweddar mae GlaxoSmithKline, Asiantaeth yr Amgylchedd, Sefydliad Francis Crick, Morvus Technology, yr Ymddiriedolaeth Helwriaeth a Chadwraeth Bywyd Gwyllt a Sefydliad Roskamp yn Florida.
Nid oes modd gwarantu lleoliad gwaith, ond rydym ni fel arfer yn llwyddo i osod y mwyafrif llethol o fyfyrwyr sy'n dymuno cael blwyddyn rhyngosod, a bydd ein staff yn cynnig cymorth ac arweiniad i ddod o hyd i leoliad addas sy'n berthnasol i'ch diddordebau ymchwil a'ch nodau gyrfa.
Dewisiadau hyblyg
Mae ein Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol yn hyblyg iawn. Does dim cap ar y nifer o bobl sy'n dewis blwyddyn rhyngosod, a does dim angen i fyfyrwyr gyflawni isafswm gradd. Mae hyn yn golygu bod manteision lleoliad gwaith proffesiynol ar gael i'r holl fyfyrwyr yn Ysgol y Biowyddorau.
Gallwch ymgeisio am un o'n graddau gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol o'r dechrau, neu gallwch benderfynu newid o'r BSc safonol neu radd meistr integredig cyn diwedd eich ail flwyddyn. Yn yr un modd, gallwch ddewis newid o radd gyda Blwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol i un o'n graddau BSc neu feistr integredig safonol. Chi sydd â’r dewis.
Darganfyddwch mwy am ein cyrsiau Biowyddorau israddedig.