Ecoleg drefol
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Caerdydd
Gall natur y cwrs maes hwn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond mae’n rhoi cyflwyniad bras i organebau ac ecoleg mewn cynefinoedd trefol, afonydd neu goetiroedd, yn y maes ac yn y labordy. Mae’r cwrs wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac mae’n cynnwys teithiau diwrnod i wahanol leoliadau yn y ddinas, neu, er enghraifft, i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Byddwch yn gallu ymgymryd ag ystod eang o brosiectau sy'n cwmpasu ecoleg ac ymddygiad ystod eang o dacsonau.
Mae’r cwrs maes hwn yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr; fodd bynnag, disgwylir i chi fod yn byw yn ardal Caerdydd neu’r cyffiniau, neu’n aros mewn llety yn yr ardal. Disgwylir i chi dalu am unrhyw lety yn ogystal â thalu am brydau bwyd dros gyfnod llawn y cwrs.
Darganfyddwch mwy am ein cyrsiau Biowyddorau israddedig.