Gyrfaoedd
Rydym yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth wyddonol, profiad ymarferol, a sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen gan gyflogwyr yn y farchnad swyddi byd-eang.
![Female on boat looking through binoculars](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/1517092/biosi-careers-cropped.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
O ymchwilwyr canser i geidwaid anifeiliaid cigysol, amgylcheddwyr i flogwyr gwyddoniaeth, mae ein graddedigion yn mynd yn eu blaen i fwynhau ystod eang o yrfaoedd llwyddiannus a gwobrwyol.
Mae gan ein myfyrwyr enw da rhagorol am ddod o hyd i waith ar ôl iddynt raddio. Yn ôl ein data mwyaf diweddar, roedd 93% o'n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.
Mae cyfran sylweddol o’n graddedigion yn mynd yn eu blaen i astudio gradd meistr neu PhD, tra bod eraill yn cael gyrfaoedd llwyddiannus mewn meysydd sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, megis ymchwil a datblygu, cadwraeth, rheoli amgylcheddol, ymchwil feddygol, cyhoeddi gwyddonol, iechyd cyhoeddus, a rheoli bywyd gwyllt, ymysg pethau eraill.
Mae hefyd gan ein graddedigion nifer o sgiliau trosglwyddadwy sy’n denu ystod eang o gyflogwyr mewn diwydiannau eraill. Yn olaf, gall gradd Biowyddoniaeth fod yn gam at gael hyfforddiant pellach mewn meysydd proffesiynol, gan gynnwys addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth, nyrsio a gwyddoniaeth filfeddygol.
Straeon graddedigion
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/1509566/Clare-head-shot-CR-hi-res_cropped.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
Cyflwynais gais am le ar gwrs Sŵoleg Caerdydd er mwyn dilyn fy mreuddwyd a bod yn amgylcheddwr. Mae'r sgiliau a ddatblygais drwy fy ngradd a'r gweithgareddau allgyrsiol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn hanfodol er mwyn adeiladu fy ngyrfa hyd yma.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1279637/DefaultLogo.png?w=100&h=100&auto=compress&crop=faces&fit=crop)
Yn ystod fy ngradd Sŵoleg israddedig yng Nghaerdydd a’r PhD dilynol, cefais fy hyfforddi yn y bôn i fod yn wyddonydd cyflawn - i werthuso gwaith eraill yn feirniadol a chanfod bylchau o fewn llenyddiaeth i ddatblygu damcaniaethau ymchwil diddorol. Mae’r sgiliau a ddatblygwyd yma wedi galluogi cynnydd cyflym i fy swydd bresennol fel Uwch-epidemiolegydd yn Uned TB Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/1509581/Sophie-3-cropped.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
Roeddwn i wastad wedi bod eisiau astudio Meddygaeth, ond yn anffodus ni chafodd fy nghais ei dderbyn y tro cyntaf. Cefais radd mewn Niwrowyddoniaeth cyn clywed am gynllun Mynediad Graddedigion i Feddygaeth (GEM), ac fe benderfynais roi cynnig arni. Mwynheais fodiwlau’r cwrs yn fawr ac roeddent wedi’u teilwra ar gyfer cwrs GEM. Cawsom ddarlithwyr cefnogol i’n helpu i baratoi ar gyfer y broses gyfweld. Rwyf nawr wedi cymhwyso fel meddyg, ac wedi cael fy swydd gyntaf mewn ysbyty.
Cyngor gyrfaoedd
Mae’r Brifysgol yn cynnig Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd sy’n agored i fyfyrwyr, myfyrwyr ôl-raddedig a graddedigion hyd at ddwy flynedd ar ôl graddio.
Mae’n cynnig ystod o wasanaethau i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich gradd (a’ch dyfodol), gan gynnwys:
- dosbarthiadau meistr - CVs, llythyrau eglurhaol a cheisiadau
- sesiynau cyngor un-i-un gyda chynghorwyr gyrfaoedd cymwysedig
- cynllun cyflogadwyedd Gwobr Caerdydd
- cynlluniau profiad gwaith a chyngor yn ei gylch
- ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau a arweinir gan gyflogwyr i alluogi unigolion i rwydweithio â phrif gyflogwyr graddedigion
Darganfyddwch mwy am ein cyrsiau Biowyddorau israddedig.