Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau'r Biowyddorau (BSc)

Mae ein rhaglenni gradd arloesol sy'n seiliedig ar ymchwil yn hyblyg iawn, a gallwch deilwra eich cwrs at eich diddordebau chi.

Dyma’r hyn sydd gan Beth a Henry i’w ddweud am astudio yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd

Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i fod mor hyblyg â phosibl. Wrth i chi fynd drwy eich cwrs, gallwch oed ddewis i drosglwyddo i un o’r graddau eraill y mae’r Ysgol yn eu cynnig, gan gynnwys un o’n graddau meistr integredig.

Cyrsiau

Biocemeg

Gwyddorau Biolegol

Gwyddorau Biofeddygol

Dewiswch eich taith

Bydd teitl eich gradd derfynol yn dibynnu ar y modiwlau y byddwch yn eu dewis ym mlwyddyn dau a thri. Rydym yn cynnig arweiniad llawn drwy gydol y broses hon i helpu i wneud yn siŵr eich bod yn graddio â gradd sy’n cyfateb i’ch diddordebau a dyheadau gyrfaol.

Mae ein holl raddau ar gael gyda a Flwyddyn Hyfforddiant Proffesiynol (neu ‘Ryngosod’). Hefyd rydym yn cynnig detholiad o’n graddau meistr integredig pedair blwyddyn.

Gan ddibynnu ar y modiwlau yr ydych yn eu dewis, gallwch fanteisio ar ein hamrywiaeth o gyrsiau maes hefyd. Mae’r cyrsiau hyn yn meithrin profiad ymarferol o dechnegau biolegol cyfoes a sgiliau maes.

Rhagolygon gyrfa

Mae ein graddau wedi’u dylunio i roi i chi’r wybodaeth wyddonol, y profiad ymarferol, a’r sgiliau trosglwyddadwy a werthfawrogir gan gyflogwyr yn y farchnad swyddi byd-eang sydd ohoni. O ymchwilwyr canser i glinigwyr, technegwyr labordy i flogwyr gwyddoniaeth, mae ein graddedigion bellach yn mwynhau ystod eang o yrfaoedd llwyddiannus a gwobrwyol.

Yn 2016/17, dywedodd 93% o'n graddedigion eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.