Ôl-raddedig a addysgir
Datblygwch eich sgiliau, eich dealltwriaeth a'ch rhagolygon gyrfa gyda'n rhaglenni ôl-raddedig.
Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang (MSc)
Mae'r byd yn wynebu heriau digynsail, ac er mwyn ymateb i'r heriau hyn, mae angen gwyddonwyr arloesol a hyblyg arnom sy'n gallu datblygu strategaethau cadwraeth sy’n cael effaith wirioneddol.
O afonydd de Cymru i goedwigoedd glaw Borneo, mae ein MSc mewn Ecoleg a Chadwraeth Fyd-eang yn cwmpasu'r prif ystyriaethau cadwraeth sy'n effeithio ar amrywiol gynefinoedd ledled y byd.
Mae Cyfarwyddwr y Rhaglen Dr Ian Vaughan yn darparu hyfforddiant mewn meysydd craidd, fel arolygon bywyd gwyllt, asesiadau bioamrywiaeth a rheoli rhywogaethau. Byddwch yn dysgu sut i adnabod bygythiadau cyfredol a newydd i rywogaethau ac ecosystemau, ac yn datblygu'r sgiliau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r bygythiadau hyn gyda datrysiadau effeithiol a graddadwy.
MRes mewn Biowyddorau
Rydym hefyd yn cynnig Athro Ymchwil (MRes) sydd wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau, y technegau a’r profiad labordy uniongyrchol hanfodol sydd eu hangen ar ôl-raddedigion i ddilyn gyrfa mewn ymchwil yn y dyfodol.
Mae’r Meistr mewn Ymchwil (MRes) mewn Biowyddorau yn rhaglen sy’n para blwyddyn, wedi’i dylunio i ddarparu cymhwyster ôl-raddedig gwerthfawr ac sy’n galluogi unigolion i wneud prosiect ymchwil sylweddol sy’n para 6 mis yn labordy gwyddonydd o fri rhyngwladol. Mae'r rhaglen yn addas iawn ar gyfer rhywun sy'n ystyried ymgymryd â PhD ond sy'n dymuno cael rhagor o wybodaeth am ymchwil yn y gwyddorau biolegol yn gyntaf. Mae hefyd yn addas i'r rhai sy'n dymuno cael gyrfa mewn ymchwil y tu allan i'r byd academaidd.
Ysgoloriaeth gwerth £3,000 yr un i fyfyrwyr y DU yn dechrau cwrs gradd Meistr yn Medi 2024.