Prosiectau ymchwil PhD sydd ar gael
Nid yw'r prosiectau canlynol yn cael eu hariannu gan Brifysgol Caerdydd, ond maent yn agored i ymgeiswyr sy'n ariannu eu hunain neu sydd â chyllid allanol.
Biofeddygaeth
Prosiect: Rôl amrywiolion sbleis wrth reoleiddio swyddogaeth BRCA1
Goruchwylwyr: Yr Athro Matt Smalley, Dr Helen Pearson a Dr Guisy Tornillo
Prosiect: Rheoleiddio cellraniad anghymesur ym môn-gelloedd canser yr ymennydd
Goruchwylwyr: Dr Florian Siebzehnrubl a Dr Fernandi Anjos-Afonso
Prosiect: Therapiwteg newydd ar gyfer canser y fron, canser y pancreas a chanser cholorhefrol
Goruchwylwyr: Dr Richard Clarkson, Professor Andrew Westwell (Fferylliaeth) a Dr Andrea Brancale (Fferylliaeth)
Prosiect: Golygu epigenetig mewn celloedd ysgyfaint dynol ar gyfer darganfod gyrrwyr a thriniaethau newydd ar gyfer clefydau cronig yr ysgyfaint
Goruchwylwyr: Dr Renate Jurkoska, Dr Tomasz Jukowski (Healthcare) a Dr Catherine Hogan
Prosiect: Ymchwilio i'r cysylltiad rhwng trafferthion cyn geni, trafferthion endocrinaidd y brych ac iselder mewn mamau
Goruchwylwyr: Professor Ros John
Prosiect: Nodweddion imiwnotherapi bacteriol gwell i drin canser colorhefrol
Goruchwylwyr: Dr Lee Parry
Prosiect: Effaith cydrannau dietegol ar homeostasis bôn-gelloedd y coluddyn a'r risg o ganser
Goruchwylwyr: Dr Lee Parry
Prosiect: Rôl bôn-gelloedd niwrol a niwronau newydd wrth reoleiddio homeostasis ynni
Goruchwylwyr: Dr David Petrik
Prosiect: Mecanweithiau molecwlaidd sy'n sail i weithredoedd gwrth-atherogenig cynhyrchion naturiol
Goruchwylwyr: Yr Athro Dipak Ramji
Dysgwch ragor am ein hymchwil i fiofeddygaeth.
Biowyddorau Moleciwlaidd
Prosiect: Cyfathrebu pellter byr a hir mewn canser: Rheoleiddio adborth o signalau Ras mewn tumorigenesis a cachecsia
Goruchwylwyr: Dr Fisun Hamaratoglu
Prosiect: Gwneud sawl math o sberm yn yr un ceilliau - Rheolaeth drawsgrifiadol o heteromorffiaeth sberm
Goruchwylwyr: Yr Athro Helen White-Cooper
Prosiect: Rheoleiddio trawsgrifiadol yng ngheilliau melanogaster Drosoffa
Goruchwylwyr: Yr Athro Helen White-Cooper
Prosiect: Gwell gyda'n gilydd: adeiladu oligomerau protein wedi'u peiriannu gan ddefnyddio bioleg synthetig
Goruchwylwyr: Yr Athro Dafydd Jones
Prosiect: Bioleg peirianneg ar gyfer electroneg y genhedlaeth nesaf: Adeiladu cylchedau bionanohybrid integredig yn ôl dyluniad
Goruchwylwyr: Yr Athro Dafydd Jones
Prosiect: Efelychu a dadansoddi strwythur DNA mewn perthynas â llwybrau trwsio
Goruchwylwyr: Dr Georgina Menzies
Prosiect: Synhwyro amgylcheddau biomoleciwlaidd lleol gyda nanosgopi optegol cydlynol
Goruchwylwyr: Yr Athro Paola Borri a Yr Athro Wolfgang Langbein (Physics)
Prosiect: Taflu goleuni newydd ar ryngweithiadau cellbilen protein-lipid sengl
Goruchwylwyr: Yr Athro Paola Borri a Yr Athro Wolfgang Langbein (Physics)
Prosiect: Dehongli rôl parthau rhyng-gellog P2X7 wrth gyplu â signalau i lawr y gadwyn
Goruchwylwyr: Dr Mark Young
Prosiect: Deall straen a synhwyroledd planhigion i leihau gwastraff bwyd a gwella diogelwch bwyd
Goruchwylwyr: Dr Hilary Rogers a Dr Carsten Muller
Prosiect: Strategaethau Pistill-Paill wrth atgynhyrchu planhigion: Derbyn neu Wrthod
Goruchwylwyr: Dr Barend H. J. de Graaf
Dysgwch ragor am ein hymchwil i fiowyddorau moleciwlaidd.
Organebau a'r amgylchedd
Prosiect: Ecoleg tirweddau a geneteg rhywogaethau Borneaidd sy'n byw mewn tirwedd dameidiog
Goruchwylwyr: Dr Pablo Orozco ter Wengel a Yr Athro Benoit Goossens
Prosiect: Genomeg tirweddau ac addasiadau lleol mewn rhywogaethau da byw
Goruchwylwyr: Dr Pablo Orozco ter Wengel
Prosiect: Strwythur a swyddogaeth tocsinau protein pryfleiddiol
Goruchwylwyr: Yr Athro Colin Berry
Dysgwch ragor am ein hymchwil i organebau a'r amgylchedd.
Niwrowyddoniaeth
Prosiect: Rôl ar gyfer metaboledd colesterol mewn anhwylder niwroddatblygiadol
Goruchwylwyr: Yr Athro Meng Li
Prosiect: Nodi rheolyddion interniwron cortigol newydd sy'n gysylltiedig ag anhwylderau niwroseiciatrig
Goruchwylwyr: Yr Athro Meng Li
Prosiect: Modelu anhwylder haploingynhaliaeth Setbp1 gan ddefnyddio niwronau sy'n deillio o hESC a diwylliannau organoid cerebrol
Goruchwylwyr: Yr Athro Meng Li a Dr Lucia Cardo
Prosiect: Niwronau dopamin A10: y cyswllt coll mewn therapiwteg celloedd ar gyfer clefyd Parkinson?
Goruchwylwyr: Dr Mariah Lelos
Prosiect: A yw gostyngiad mewn huntingtin naturiol mewn ymennydd oedolyn yn effeithio ar swyddogaeth wybyddol?
Goruchwylwyr: Dr Mariah Lelos
Prosiect: Deall rôl nam yn y llwybr awtoffagi-lysosomaidd er mwyn datblygu meddyginiaethau ar gyfer trafferthion niwrolegol ôl-feirysol
Goruchwylwyr: Dr Emyr Lloyd-Evans a Dr Helen Waller-Evans
Dysgwch ragor am ein hymchwil i niwrowyddoniaeth.
Gwnewch eich cynnig ymchwil eich hun
Mae ein goruchwylwyr academaidd yn agored i geisiadau gan fyfyrwyr sy'n ariannu eu hunain. Gallwch gysylltu ag aelodau staff o’r is-adran ymchwil berthnasol i drafod cynigion ymchwil posibl:
I wneud cais ar gyfer unrhyw un o'r ysgoloriaethau PhD a ariennir, ewch i'n prif dudalen PhD.