PhD a MPhil
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi rhwydd hynt i chi ymchwilio'n ddwfn i bwnc cyfoes, gan weithio gydag ymchwilwyr blaenllaw a chael defnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf.
Fel myfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol y Biowyddorau, byddwch yn elwa ar weithio mewn amgylchedd hyfforddiant ac ymchwil rhagorol, gyda rhaglen wedi’i strwythuro a’i chefnogi’n dda er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwilio’n annibynnol.
PhD
Rydym yn cynnig ysgoloriaethau PhD wedi’u hariannu’n llawn i gyfranogwyr o’r DU a’r UE drwy raglen PhD Biowyddorau, yn ogystal â chynnig cyfleoedd hunan-ariannu i fyfyrwyr o bedwar ban byd.
PhDs wedi’u hariannu’n llawn
Rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau wedi’u hariannu’n llawn mewn nifer o feysydd ymchwil.
Ystyriwch ein cyfleoedd presennol am PhD.
Astudiaethau PhD wedi'u hariannu'n allanol ac wedi'u hunan-ariannu
Rydym yn cynnig goruchwyliaeth a/neu brosiectau ymchwil yn y meysydd canlynol i fyfyrwyr o’r DU, yr UE a thramor, sydd wedi’u hariannu’n allanol neu’u hunan-ariannu.
- Biowyddorau Moleciwlaid
- Biofeddygaeth
- Organebau a’r Amgylchedd
- Canser
- Peirianneg Systemau Byw
- Mecanweithiau Bywyd a Chlefyd
- Niwrowyddoniaeth
- Planed Gynaliadwy
- Technolegau Newydd.
Rydym hefyd yn croesawu cynigion ymchwil gan fyfyrwyr wedi’u hunan-ariannu. Mae’n bwysig bod eich cais yn cyd-fynd â diddordebau ymchwil yr Ysgol, felly cyn cyflwyno cais, cysylltwch ag aelodau o staff o’r is-adran ymchwil berthnasol i drafod eich cynnig ymchwil posibl.
Rydym hefyd yn croesawu cynigion ymchwil gan fyfyrwyr sy'n cael eu hariannu'n allanol ac yn eu hariannu eu hunain.
MPhil
Mae ein MPhil yn cynnwys prosiect byrrach, gyda mwy o ffocws, na PhD, ac yn caniatáu i chi adeiladu ar brofiad academaidd a phroffesiynol i ddatblygu eich sgiliau ymchwil ymhellach.
Dylai ceisiadau am MPhil fod yn berthnasol i ddiddordebau ymchwil staff yn Ysgol y Biowyddorau.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth:
Ymholiadau ôl-raddedig
Mae manylion llawn am ein rhaglenni PhD a MRes, yn cynnwys sut i ymgeisio, ar gael yn y darganfyddwr cwrs.