MRes
Mae ein Athro Ymchwil (MRes) wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau, y technegau a’r profiad labordy uniongyrchol hanfodol sydd eu hangen ar ôl-raddedigion i ddilyn gyrfa mewn ymchwil yn y dyfodol.
MRes mewn Biowyddorau
Mae’r Meistr mewn Ymchwil (MRes) mewn Biowyddorau yn rhaglen sy’n para blwyddyn, wedi’i dylunio i ddarparu cymhwyster ôl-raddedig gwerthfawr ac sy’n galluogi unigolion i wneud prosiect ymchwil sylweddol sy’n para 6 mis yn labordy gwyddonydd o fri rhyngwladol. Mae'r rhaglen yn addas iawn ar gyfer rhywun sy'n ystyried ymgymryd â PhD ond sy'n dymuno cael rhagor o wybodaeth am ymchwil yn y gwyddorau biolegol yn gyntaf. Mae hefyd yn addas i'r rhai sy'n dymuno cael gyrfa mewn ymchwil y tu allan i'r byd academaidd.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan unigolion â phrofiad masnachol perthnasol nad ydynt am fynd ymhellach na Cham 1 ar y rhaglen (Tystysgrif Ôl-raddedig).
Rhagolygon gyrfa
Mae llawer o'n graddedigion MRes yn sicrhau swyddi gwych mewn sefydliadau fel technegwyr labordy, athrawon, ymgynghorwyr, cadwraethwyr natur a thechnegwyr ymchwil.
Mae ein rhaglen MRes hefyd yn ddelfrydol os ydych yn ystyried astudio ar gyfer PhD ond am gael rhagor o wybodaeth am waith ymchwil yn gyntaf. Mae tua 55-65% o'n myfyrwyr MRes yn mynd ymlaen i astudio ar gyfer PhD.
Contact Us
Biosciences MRes
Get full course details including funding information, entry requirements and how to apply.