Cymrodoriaethau
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr cymrodoriaeth sydd â’r un diddordebau â meysydd ymchwil yr is-adran gysylltu.
Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â biosi-research@caerdydd.ac.uk
Rydyn ni hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr PhD sydd â diddordebau ymchwil sy'n cyd-fynd â'n meysydd ymchwil strategol.
Cysylltwch â biosi-pg@cardiff.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Rydyn ni'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr mewnol ac allanol ar gyfer Cymrodoriaethau Ymchwil annibynnol ar gyfer ystod eang o gyllidwyr.
Cymorth
Bydd ymgeiswyr yn ymuno ag awyrgylch amrywiol a chefnogol i ddatblygu eu gyrfa ymchwil tuag at fod yn annibynnol. Mae ein cymorth yn cynnwys:
- Cewch eich mentora gan academyddion profiadol yn eich maes ymchwil.
- Datblygiad proffesiynol a chyfleoedd hyfforddi
- Defnydd o’n cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf
- Cymorth gan arbenigwyr ar gyfer eich cais am grant ac eich amcanion gyrfa yn y dyfodol
Diddordebau ymchwil
Mae rhestr o staff ymchwil academaidd a’u diddordebau ymchwil ar gael ar dudalennau gwe'r is-adran:
Os bydd eich diddordebau ymchwil yn cyd-fynd ag un o'n hacademyddion presennol ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais ar gyfer y gymrodoriaeth, yna cysylltwch â’n Swyddfa Ymchwil i gael gwybod rhagor.
Swyddi gwag
Nid oes unrhyw gyfleoedd cymrodoriaeth ar gael ar hyn o bryd.