Ewch i’r prif gynnwys

Gosod Pen-glin Newydd (TKR)

Mae cleifion sydd wedi cael gosod pen-glin newydd (TKR) yn aml yn anfodlon â phoen a swyddogaeth cyhyr ar ôl llawdriniaeth, gan dynnu sylw nad yw'r canlyniad llawfeddygol ac adsefydlu hwnnw yn optimaidd.

Mae ein hymchwil yn asesu ac yn cydberthyn gweithrediad y claf, marcwyr biolegol, poen a ffactorau seico-gymdeithasol gyda'r nod o ddatblygu offer rhyngddisgyblaethol i ragweld canlyniad gosod pen-glin newydd ac ymyrraeth uniongyrchol well.

Pe gallai clinigwyr ragweld canlyniad claf drwy nodi pa gleifion fydd yn ymateb orau i bob opsiwn o driniaeth, byddai'r buddion clinigol ac economaidd iechyd sy'n gysylltiedig â therapi wedi'i dargedu yn golygu y byddai cleifion yn cael y driniaeth gywir ar yr adeg iawn, gan osgoi llawdriniaeth neu adsefydlu amhriodol.

Newidynnau cymhleth

Er gwaethaf cyfradd anfodlonrwydd uchel, mae cleifion TKR yn gyffredinol yn cael eu trin fel grŵp homogenaidd gan anwybyddu cyflwyniadau a gofynion amrywiol. Mae angen data aml-ffactorol ar frys i wella diagnosis o osteoarthritis (OA).

Ein nod yw mynd i'r afael ag Argymhellion Ymchwil NICE i wella gofal claf OA, a Menter Fyd-eang Biofarcwyr OARSI OA. Daw'r rhain i'r casgliad y bydd haeniad claf yn seiliedig ar gymhlethdod newidynnau yn gwella canlyniad y claf.

Mae ein hastudiaethau'n wahanol i haeniadau astudiaethau presennol ar sail glaf ar gyfer OA mewn dwy ffordd bwysig:

  1. Rydym yn manteisio/ecsbloetio ar ddulliau gwneud penderfyniadau a modelu newydd yn seiliedig ar Brif Ddadansoddi Cydran a dosbarthiad rhesymu ansicr a ddatblygwyd ar gyfer dadansoddi data cymhleth sy'n cysylltu data biolegol, data seico-gymdeithasol, data biofecanyddol a swyddogaeth glinigol mewn cleifion unigol, i ddarganfod pa gyfuniadau sy'n rhagweld canlyniadau gwael a pham, a sut y gellir unioni hyn trwy dargedu triniaethau.
  2. Rydym yn cyfuno data aml-ffactor manwl ar gyfer pob claf, cyn ac ar ôl ymyrraeth, mewn modd hydredol.

Modelu cleifion

Rydym wedi galluogi sawl astudiaeth brotocol ar yr un pwnc sy'n cynhyrchu'r wybodaeth aml-ffactor hon i fodelu taith glaf o OA hyd at adferiad. Er mai clefyd perifferol yn y cymalau yw OA yn bennaf, mae tystiolaeth nad yw prosesu poen mewn cleifion ag OA yn drosglwyddiad llinellol o wybodaeth o'r cymal i'r system nerfol ganolog fel:

  • OA radiograffig a phatholeg yn y cymalau - nid yw'r rhain yn cydberthyn â phoen hunan cofnodedig
  • mae cleifion ag OA yn profi prosesu synhwyraidd annormal (e.e. trothwyon poen is mewn ardaloedd o amgylch cymal poenus).

O ganlyniad, mae datblygiadau mewn niwroddelweddu strwythurol a swyddogaethol wedi taflu goleuni ar rai o'r anghysondebau hyn.

Hyd y gwyddom, ni yw'r unig ganolfan ymchwil sy'n ymgymryd â'r math hwn o astudiaeth a fydd yn caniatáu datblygu offer canlyniadau prognostig clinigol.