Ymchwil cyn-glinigol
Mae newidiadau biofecaneg ac anafiadau i’r cymalau yn ffactorau risg ar gyfer datblygu osteoarthritis (OA). Mae’r ffyrdd y mae llwyth mecanyddol iach yn cynnal homeostasis o’r cymalau a llwyth anarferol yn achosi dirywiad yn anhysbys.
Nod ein rhaglen ymchwil cyn-glinigol yw deall sut mae llwyth mecanyddol yn arwain at signalau anabolig, catabolig, llidiol a nosiseptaidd mewn meinweoedd cymalau, a chyfrannu at symptomau, dechrau a chlefyd y cymalau yn datblygu.
Bydd hyn yn ein galluogi i ragweld effeithiau biolegol o newidiadau biofecaneg i’r cymalau o ganlyniad anaf neu lawdriniaeth a fydd yn ei dro, helpu i lywio clinigwyr am amseru a dulliau llawdriniaeth ac/neu adsefydlu. Gan fod signalau a’i rheolir yn fecanyddol o fewn meinweoedd y cymalau yn dylanwadu yn uniongyrchol ar lid, poen a phatholeg, gallent hefyd atal symptomau a chlefyd. Mae'r ymchwil hwn yn darganfod ac yn ymchwilio i dargedau cyffuriau newydd i geisio atal cynnydd OA a biofarcwyr newydd a all ragweld arthritis cynnar a clefyd yn datblygu yn ogystal ag effeithiolrwydd ymyrraeth lawfeddygol/adsefydlu/cyffuriau.
Dewisiadau o ran triniaeth
Nid oes gwellhad ar gyfer OA ac mae'r triniaethau cyfredol yn canolbwyntio'n bennaf ar reoli poen. Mae cost sylweddol sy’n cynyddu i’r gymdeithas yn gysylltiedig â OA oherwydd nifer o ffactorau, megis rhychwantau oes hir a disgwyliadau uwch o heneiddio'n iach ac yn egnïol ac mae angen opsiynau therapiwtig newydd (cyffuriau, llawdriniaeth, adsefydlu, orthoteg) ar frys. O’r dulliau cyfredol sydd ar gael, does dim un o’r rhain yn targedu effaith llwytho mecanyddol clefyd yn datblygu a symptomau trwy ddefnyddio mecanweithiau biolegol i ddiffinio opsiynau triniaeth newydd. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw ganfyddiadau o’r fath o wyddoniaeth sylfaenol wedi eu trosi i dreialon ymyrraeth ddynol.
Drwy ein hymchwil, rydym wedi:
- Creu modelau arthritis in vitro a llwytho in vivo
- cynhyrchu data hydredol paru biomecaneg i fioleg mewn bodau dynol arthritig, drwy gydweithio effeithiol rhwng arbenigwyr mewn orthopaedeg, adsefydlu, peirianneg a gwyddoniaeth sylfaenol.
Mae'r cyfuniad unigryw hwn o arbenigedd wedi datgelu mecanweithiau biolegol a reoleiddir yn fecanyddol sydd â photensial trosiadol addawol.
Ein hamcanion
Ein nod yw datgelu mecanweithiau biolegol sy'n sail i lwytho mecanyddol y gellir eu trosi'n ymyriadau. Dyma'r amcanion:
- penderfynu sut mae signalau biofecanyddol yn dylanwadu ar lid, poen a phatholeg
- nodi signalau a ysgogwyd yn fecanyddol sy'n cychwyn ymatebion anabolig a chatabolig
- adnabod biofarcwyr a reoleiddir yn fecanyddol sy'n newid mewn arthritis.
Prosiectau allweddol
Er bod gennym amrywiaeth o dargedau moleciwlaidd sydd ar bob cam ymchwil gwahanol, ein canolbwynt yw prosiectau allweddol sy’n dangos ein cynnydd ym mhob amcan Y prosiectau yw:
- Glwtamad sy’n gyrru llid, poen a phatholeg mewn arthritis.
- Mecanweithiau mecanyddol, biofarcwyr ac ymyriadau mecanyddol in vivo.
- Mecanweithiau mecanyddol, biofarcwyr ac ymyriadau mecanyddol in vitro.
- Biofarcwyr.
Mae ein hymchwil yn dibynnu ar gymorth a brwdfrydedd parhaus y bobl sy'n cymryd rhan yn ein hastudiaethau. Os oes gennych gymalau iach neu os ydych chi wedi cael eich trin am anaf neu arthritis yna gallwch wirfoddoli i'n helpu ni gyda'n hymchwil mewn amryw o ffyrdd.