Ymchwil
Ein nod yw gwella triniaeth, diagnosis ac adferiad arthritis drwy ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n archwilio'r perthnasoedd rhwng llwyth mecanyddol, swyddogaeth cymalau, poen a llid.
Mae ein hymchwil yn gyfuniad o arbenigedd a chyfleusterau a dynnir o sawl rhan o Brifysgol Caerdydd, arbenigwyr allanol, cydweithrediadau ac ariannu gan fyd diwydiant. Mae hyn wedi ein galluogi i:
- adeiladu sylfaen gref o 2000 claf gwirfoddol sydd wedi helpu;
- datblygu ystorfa feinweoedd gyda dros 3000 sampl i gynorthwyo yn ein hastudiaethau
- creu offer a methodoleg ryngddisgyblaethol
- cael cymeradwyaeth foesegol sydd wedi ein galluogi i greu llu o brotocolau i'w perfformio'n hydredol ar gleifion unigol.
Rydym wedi datblygu prosiectau newydd sy'n gofyn am gasgliad o ddata cleifion hydredol, mwy hirdymor ac am ddatblygu piblinellau arbrofol newydd, heriol fel bod modd cydberthyn biomecaneg a bioleg ar gyfer grwpiau penodol o gleifion.
Mae’r prosiectau'n dod o dan ein pedair prif raglen ymchwil:
Mae ein hymchwil yn dibynnu ar gymorth a brwdfrydedd parhaus y bobl sy'n cymryd rhan yn ein hastudiaethau. Os oes gennych gymalau iach neu os ydych chi wedi cael eich trin am anaf neu arthritis yna gallwch wirfoddoli i'n helpu ni gyda'n hymchwil mewn amryw o ffyrdd.