Y broses ymgeisio
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer prosiectau sy’n cynnal ymchwil er budd cleifion.
Pwy sy’n gymwys i gael mynediad?
Rydym yn gallu casglu darpar samplau gyda chydsyniad cyffredinol gan ganiatáu gwaith ymchwil genetig, gwaith ymchwil ar anifeiliaid a throsglwyddo samplau’n genedlaethol ac yn rhyngwladol i sefydliadau ymchwil a chwmnïau masnachol. Caiff samplau eu rhyddhau ar gyfer astudiaethau sydd er budd cleifion yn unig.
Os ydych am ofyn am samplau gan y Banc Bio, dylech fod wedi eich cyflogi gan un o’r canlynol:
- sefydliad academaidd cydnabyddedig neu sefydliad y GIG
- sefydliad masnachol sy’n ymwneud â gwaith ymchwil
Rydym yn croesawu ceisiadau o bob maint, o geisiadau am samplau lluosog ar raddfa fawr i brosiectau peilot ar raddfa lai. Pan fo galw am ddeunydd yn mynd y tu hwnt i’r nifer ohono sydd ar gael, caiff mynediad ei flaenoriaethu’n seiliedig ar deilyngdod gwyddonol.
Adolygiad o geisiadau
Bydd y rhan fwyaf o geisiadau yn cael eu hadolygu gan Bwyllgor Adolygu Gwyddonol Banc Bio Prifysgol Caerdydd. Efallai y bydd angen adolygiad ychwanegol ar geisiadau o natur ddadleuol.
Rydym yn gweithredu model adfer costau felly mae angen tystiolaeth o gyllid cyn y gellir cymeradwyo cais. Gellir gwneud ceisiadau cyn cael cyllid, ond ni roddir cymeradwyaeth derfynol nes y bydd cyllid wedi’i sicrhau.
Os yw eich cais wedi bod yn aflwyddiannus ac rydych yn dymuno gwneud apêl, dylech wneud hyn yn ysgrifenedig trwy e-bost.