Gwirfoddoli
Swyddi gwag i wirfoddolwyr
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr ar hyn o bryd i ymuno â’n cronfa o adolygwyr a fydd yn gyfrifol am asesu addasrwydd prosiectau sy’n ymgeisio i ddefnyddio samplau yn y Banc Bio.
Mae’r pwyllgor adolygu’n cynnwys arbenigwyr o feysydd clefyd penodol yn ogystal â phobl nad ydynt yn arbenigwyr. Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr ychwanegol yn y categorïau canlynol:
- academyddion sy’n gweithio mewn meysydd biofeddygol neu wyddorau bywyd
- unigolion sydd ag arbenigedd mewn moeseg ddynol
- clinigwyr
- cynrychiolwyr lleyg (e.e. rhai nad ydynt yn gweithio mewn maes biofeddygol)
- cynrychiolwyr cleifion
Gall cynrychiolwyr lleyg a chleifion fod ag unrhyw fath o gefndir ac nid oes angen unrhyw arbenigedd academaidd arnynt. Bydd angen i gynrychiolwyr cleifion fod â phrofiad o ofal yn yr ysbyty.
Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu’n gyffredinol dros e-bost. Gan y byddwch yn rhan o gronfa o aelodau, dim ond ychydig o alwadau’n unig y dylai pob unigolyn eu derbyn i adolygu ceisiadau yn ystod y flwyddyn felly ni fydd yn ormod o dreth ar eich amser. Caiff costau teithio eu had-dalu os bydd angen unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn adolygydd ar gyfer y Biofanc, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â ni a byddwn yn dod i gysylltiad â chi cyn bo hir.