Ymchwil sy’n defnyddio eich samplau
Mae eich samplau yn cyfrannu at ymchwil sy’n ehangu dealltwriaeth o wahanol glefydau a chyflyrau a fydd wedyn yn arwain at ddatblygu diagnosis cyflymach a thriniaethau mwy effeithiol.
Defnyddio samplau
Caiff ein samplau eu defnyddio ar gyfer ymchwil wyddonol neu feddygol sydd er budd cleifion. Bydd ein samplau’n cael eu defnyddio gan aelodau o Brifysgol Caerdydd ond byddant hefyd yn hygyrch i ymchwilwyr eraill ledled Cymru, y DU, Ewrop a gweddill y byd. Gallai hyn gynnwys cwmnïau masnachol sydd â diddordeb mewn ymchwil er budd cleifion, megis cwmnïau cyffuriau.
Cadw samplau’n ddiogel
Mynediad cyfyngedig sydd at yr adeilad yn Ysbyty Athrofaol Cymru, i’r rhai sydd ei angen yn unig, gyda chyfyngiadau pellach ar y mannau storio samplau.
Unwaith y bydd sampl yn cyrraedd y Banc Bio, rhoddir dynodydd unigryw iddi y gall dim ond nifer cyfyngedig o staff cymeradwy’r Banc Bio ei holrhain atoch chi. Mae'n bwysig ein bod ni’n cadw’r cysylltiad hwn, oherwydd os byddwch chi’n penderfynu’n ddiweddarach nad ydych am i’ch samplau gael eu storio neu eu defnyddio mwyach, gallwn eu tynnu allan o’r banc a’u dinistrio.
Pan gaiff samplau eu rhyddhau i ymchwilwyr, rhoddir y dynodydd dienw iddynt yn unig a rhywfaint o wybodaeth sylfaenol/glinigol amdanoch chi (megis oedran, rhyw a diagnosis). Ni roddir unrhyw wybodaeth i’r ymchwilydd fydd yn golygu bod modd eich adnabod.
Mynediad at eich samplau
Pan fydd ymchwilydd yn gwneud cais i’r Banc Bio er mwyn cael mynediad at eich samplau, bydd eu prosiectau’n cael eu hadolygu gan Bwyllgor Adolygu Gwyddonol y Banc Bio yn seiliedig ar y rhesymeg wyddonol, dulliau, hanes ymchwilwyr a manteision tebygol i gleifion. Dim ond ar ôl derbyn cymeradwyaethau gan y Pwyllgor, fydd gan yr ymchwilydd/ion wedyn fynediad at y samplau y gofynnir amdanynt.
Sut y gellid defnyddio eich samplau
Mae’r Banc Bio yn cyflenwi samplau i brosiectau sydd er budd cleifion a’r cyhoedd. Gallai ymchwil sy’n defnyddio eich samplau arwain at well dealltwriaeth o glefyd penodol, gwelliant i driniaethau neu greu profion diagnostig newydd.
Mae samplau gan wirfoddolwyr iach yn chwarae rhan bwysig iawn fel y grŵp rheoli negyddol mewn prosiectau ymchwil. Mae hyn yn galluogi ymchwilwyr i gymharu canlyniadau rhwng samplau positif clefydau a samplau iach.
Mae rhai prosiectau rydym wedi eu cefnogi wedi cyfrannu at ddatblygiadau gwyddonol gan gynnwys:
- datblygu offeryn diagnosis canser
- astudio diagnosio COVID-19
- gwerthuso rhai noddion sy’n deillio o blanhigion fel triniaeth ar gyfer wlserau’r croen heintiedig
- datblygu biofarcwyr biocemegol newydd ar gyfer clefydau storio lysosomal plentyndod
- ymchwilio i fiofarcwyr ar gyfer Cyflwr Sglerosis Clorog