Cefndir

Dewiswyd Prifysgol Caerdydd yn un o’r pum prif ganolfan ledled y DU fydd yn cynnal Gŵyl Bod yn Ddynol 2024, sef gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU ochr yn ochr ag amrywiaeth o partneriad.
Gŵyl Bod yn Ddynol yw gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU sy’n dathlu ymchwil yn y dyniaethau drwy gynnal digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd.
Cynhelir yr ŵyl yng Nghaerdydd rhwng 7-16 Tachwedd 2024, a bydd ein Canolfan yn ymuno â rhwydwaith Gŵyl Bod yn Ddynol i gynnal cannoedd o ddigwyddiadau am ddim ledled y DU a thu hwnt.
Nod ein hystod eang o ddigwyddiadau yn yr ŵyl yw dathlu a dangos y ffyrdd y mae ymchwilwyr yn y dyniaethau yn ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau bob dydd, yn ein helpu i ddeall ein hunain, ein perthynas â phobl eraill, a'r heriau sy'n ein hwynebu mewn byd sy'n bythol newid.
Nid oes tâl i gymryd rhan, ac mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau ar agor i bawb, er bod rhai wedi'u hanelu at grwpiau ac ysgolion heb gynrychiolaeth ddigonol.
