Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen digwyddiadau Gŵyl Bod yn Ddynol 2024

Crynodeb o'n rhaglen digwyddiadau cyhoeddus am ddim yn yr ŵyl eleni.

Event titleTimeDescription
Ailadrodd hanesion cudd a chymhleth Caerdydd9 Tachwedd 2024, 13:00-16:00

Taith dywys ryngweithiol a gweithdy creadigol i ddarganfod ac ail-ddweud hanes Caerdydd

Mae’r daith ryngweithiol hon yn tywys cyfranogwyr drwy’r ddinas, gan dynnu sylw at hanesion cymhleth ac ymylol Caerdydd.

Yn dilyn y daith, byddwn yn dod at ein gilydd i rannu syniadau ac ail-fapio hanes a daearyddiaeth Caerdydd yn greadigol. Bydd cyfranogwyr yn gallu mynd â dulliau ymarferol a syniadau ar gyfer ailfeddwl ffyrdd o gynrychioli hanes eu tref neu ddinas eu hunain.

Mae’r digwyddiad hwn, a arweinir gan ymchwilwyr o Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol mewn partneriaeth â The Wallich (elusen gofrestredig sy’n gweithio i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru).

Ailadrodd hanesion cudd a chymhleth Caerdydd13 Tachwedd 2024, 13:00-16:00

Taith dywys ryngweithiol a gweithdy creadigol i ddarganfod ac ail-ddweud hanes Caerdydd

Mae’r daith ryngweithiol hon yn tywys cyfranogwyr drwy’r ddinas, gan dynnu sylw at hanesion cymhleth ac ymylol Caerdydd.

Yn dilyn y daith, byddwn yn dod at ein gilydd i rannu syniadau ac ail-fapio hanes a daearyddiaeth Caerdydd yn greadigol. Bydd cyfranogwyr yn gallu mynd â dulliau ymarferol a syniadau ar gyfer ailfeddwl ffyrdd o gynrychioli hanes eu tref neu ddinas eu hunain.

Mae’r digwyddiad hwn, a arweinir gan ymchwilwyr o Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol mewn partneriaeth â The Wallich (elusen gofrestredig sy’n gweithio i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru).

Dadgodio archifau ar gyfer crewyr cynnwys14 Tachwedd 2024, 14:00-16:30

Gweithdy i fod yn greadigol gyda chasgliadau prin, adrodd straeon heb eu darganfod a darganfod sut i ddatgloi archifau ar gyfer creu cynnwys a chynhyrchu creadigol.

Mae Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd yn drysor cudd - yn llawn llyfrau prin, dogfennau nodedig a straeon heb eu darganfod. Darganfyddwch sut y gellir defnyddio archifau a chasgliadau arbennig i greu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, podlediadau, cynyrchiadau creadigol a mwy.

Gweithio gydag arbenigwyr mewn technoleg a llyfrau prin i ddatgodio testunau hanesyddol gan ddefnyddio technegau digidol newydd, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial. Archwiliwch gasgliadau unigryw, dysgu sut i drin deunyddiau prin a bregus, a rhoi cynnig ar greu cynnwys sy'n adrodd stori afaelgar am y gorffennol.

Cysylltiadau Busnes a Chymuned14 Tachwedd 2024, 16:00 - 18:00

Dathliad o’n busnesau tirnod lleol a sut maen nhw’n cyfrannu at ein hamgylchedd i greu pileri cymdeithas

Ymunwch ag Ysgol Busnes Caerdydd yn yr arddangosfa hon i ddathlu amrywiaeth a llwyddiannau ein busnesau nodedig lleol.

Cwrdd â'ch busnesau bach lleol, blasu a phrynu rhai cynhyrchion a dysgu sut maen nhw'n cyfrannu at yr economi, yr amgylchedd, y gymuned a chymdeithas.

Dysgwch am ymagweddau cynaliadwy, moesegol a dynol at y farchnad a chymdeithas, a sut maent yn cyfrannu at lwyddiant busnesau bach.

Ymchwil a luniodd yr arddangosfa War and the Mind yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol14 Tachwedd 2024, 17:00-19:00

Digwyddiad sgyrsiol a gweithdy yn archwilio sut gwnaeth ein ymchwil roi mewnbwn gwerthfawr i brofiadau meddyliol ac emosiynol o ryfel i filwyr a sifiliaid.

Dysgwch sut y cyfrannodd ymchwil gan ein Hysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ar gyfarfyddiadau â'r gelyn at yr arddangosfa War and the Mind sy'n cael ei harddangos ar hyn o bryd yn yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd, Llundain.

Cewch weld rhai o’r arddangosfeydd allweddol, dysgu am ein hymchwil a chlywed naratifau sy’n rhoi mewnbwn i brofiad meddyliol ac emosiynol rhyfel i filwyr a sifiliaid.

Ymunwch â’n hymchwilydd, yr Athro Holly Furneaux, Uwch Guradur yr arddangosfa, Laura Clouting, a Karin Diamond, Cyfarwyddwr Artistig o Relive (elusen celfyddydau stori bywyd sy'n ymddangos yn yr arddangosfa), i archwilio heriau cyflwyno hanesion anodd, a chael dealltwriaeth o brofiadau meddyliol ac emosiynol gwrthdaro.

Yn dilyn y sgwrs a sesiwn holi ac ateb, bydd cyfle i aelodau'r gynulleidfa rannu eu profiadau eu hunain, pe baent yn dewis, trwy drafodaethau grŵp ac arferion creadigol rhyngweithiol.

Creu Hanes yng Nghaerdydd: Diwrnod Cymunedol15 Tachwedd 2024, 14:00-16:00

Dathliad o 6,000 o flynyddoedd o hanes Trelái a Chaerau. Mae Creu Hanes yng Nghaerdydd yn ddathliad sy’n dod ag ymchwilwyr o’n Hysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, partneriaid cymunedol ac artistiaid ynghyd, ar y cyd â thîm dynodedig o wirfoddolwyr lleol, i archwilio hanes cyffrous yr ardal, adeiladu sgiliau a chreu cyfleoedd ar gyfer cymunedau bywiog Caerau a Threlái.

Mae Creu Hanes yng Nghaerdydd yn croesawu aelodau o gymuned Caerau a Threlái i Ganolfan Dreftadaeth Caer i archwilio’r darganfyddiadau anhygoel a arweinir gan y gymuned o’r ardaloedd o’r gorffennol o oes y cerrig i’r oes fodern. Profwch arteffactau rhyfeddol o’r Oes Efydd o’r tŷ cyntaf yn y ddinas, camwch yn ôl mewn amser i archwilio’r Oes Haearn a chael profiad ymarferol o grefftau hynafol ar thema treftadaeth.

Creu Hanes yng Nghaerdydd: Diwrnod Darganfod16 Tachwedd 2024, 11:00-15:00

Dewch i archwilio 6,000 o flynyddoedd o hanes yn ein dathliad llawn hwyl i deuluoedd

Mae Creu Hanes yng Nghaerdydd yn ddathliad  sy’n dod ag ymchwilwyr o’n Hysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, partneriaid cymunedol ac artistiaid ynghyd, ar y cyd â thîm dynodedig o wirfoddolwyr lleol, i archwilio hanes cyffrous, adeiladu sgiliau a chreu cyfleoedd ar gyfer cymunedau bywiog Caerau a Threlái.

Cynhelir Creu Hanes yng Nghaerdydd: Diwrnod yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, drws nesaf i safle fila Rufeinig a’r tŷ hynaf y gwyddys amdano yng Nghaerdydd sy’n dyddio o’r Oes Efydd.

Bydd y diwrnod yn llawn dop o hwyl i’r teulu oll a gweithgareddau rhyngweithiol ar thema’r gorffennol megis: blasu bwydydd Rhufeinig, cerdded trwy dirweddau’r Oes Efydd, cyfansoddi sagas canoloesol, darganfod chwedlau am wrachos a helfeydd gwrachod, dysgu am hanes llafar a chyd-greu celf ar thema treftadaeth.

Gweld rhaglen lawn gŵyl Bod yn Ddynol ledled y DU