Uchafbwyntiau Gŵyl Bod yn Ddynol 2023
Gwilyiwch uchafbwyntiau o ddigwyddiadau Bod yn Ddynol ar draws y wlad.
Dyma crynodeb o'r rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer Gŵyl Bod yn Ddynol 2023.
Teitl y digwyddiad | Amser | Disgrifiad |
---|---|---|
Dod Adref: Rhannu Straeon Iechyd Meddwl Cyn-filwyr | 9 Tach 2023, 09:00 to 18 Tach 2023, 17:00 | Mae Dod Adref yn arddangosfa profiadau bywyd sy'n cael eu hadrodd ar ffurf comic a chartŵn unigryw wedi'i gynhyrchu gan gyn-filwyr ar y cyd ag ymarferwyr profiadau bywyd, gweithwyr proffesiynol yn sector y celfyddydau ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd. |
Celf Anifeiliaid Oes y Cerrig | 11 Tachwedd 2023 10:00-16:00 | Ymunwch mewn amrywiaeth o weithgareddau o edrych ar offer o Oes y Cerrig i greu celf anifeiliaid i fynd adref gyda chi mewn digwyddiad i'r teulu cyfan. |
Dod Adref: Teithiau Tywys | 14 Tachwedd, 13:00-14:30 | Ymunwch â Re-Live ar gyfer arddangosfa o waith celf gwreiddiol o Dod Adref, casgliad o gomics a grëwyd gan gyn-filwyr sy'n byw gyda hanesion iechyd meddwl ar y cyd â rhai o gartwnwyr mwyaf blaenllaw y DU, ymarferwyr Profiadau Bywyd ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd. |
Dod Adref: Sgwrs a Gweithdy Profiadau Bywyd | 14 Tachwedd, 15:00-16:30 | I ddathlu'r arddangosfa o waith celf gwreiddiol o Dod Adref, casgliad o gomics Re-Live a grëwyd ar y cyd â chyn-filwyr sy'n byw gyda hanesion iechyd meddwl, bydd Cyfarwyddwr Artistig Re-Live yn arwain gweithdy i drafod y broses. |
Edrych ar Hanes Llafur: treftadaeth a chydweithredu cynhwysol | 14 Tachwedd, 17:00-19:00 | Dewch i edrych ar gasgliadau’r Amgueddfa i ddysgu am hanes llafur yng Nghymru a’r byd, dan arweiniad Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. |
Sgwrs gydag AI | 17 Tachwedd 2023 10:00-16:00 | Pa mor ymwybodol ydych chi o ddeallusrwydd artiffisial (AI) a sut i'w ddefnyddio? Dyma senario dychmygol lle mae system AI yn cael ei chyfweld am ei gwaith ym maes newyddiaduraeth. |
Mapio'r Metelau - Treftadaeth Gymunedol a Chanfod Metel | 18 Tachwedd 2023 10:00-16:00 | Dewch i helpu i gynnal a chofnodi dadansoddiad o'r trysorau archaeolegol sydd i'w canfod ar eich stepen drws. |