Ewch i’r prif gynnwys

Amgylcheddau Adeiledig Digidol Diogel

Mae’r Gweithgor Amgylcheddau Adeiledig Digidol Diogel yn canolbwyntio ar ddeall damcaniaeth sylfaenol, gofynion a datblygiad safonau, systemau ac offer i gymhwyso egwyddorion diogelwch, a hynny er mwyn sicrhau amgylcheddau adeiledig digidol sy’n ddiogel ac yn gynaliadwy.

Building information modelling

I lawer o adeiladau a seilwaith critigol, mae modelau rhithwir yn cael eu defnyddio'n fwy ymarferol ar gyfer monitro, rheoli a gwneud penderfyniadau, ac mewn rhai achosion, mae ganddynt y gallu mewn amser real i ymateb a rheoli mewn argyfwng. Mae ystyriaethau data a diogelwch systemau'n hanfodol ar gyfer y gymdeithas ddigidol nawr ac yn y dyfodol.

Mae ymddangosiad Modelu Gwybodaeth am Adeiladau ym meysydd Pensaernïaeth, Peirianneg ac Adeiladu/Gweithredu wedi chwyldroi'r diwydiant adeiladu a sbarduno trawsnewid digidol drwy gylchoedd oes asedau ffisegol ar draws gwahanol sectorau. Mae gefeilliaid digidol wedi ehangu'r maes ymhellach ar gyfer digideiddio drwy ysgogi’r Rhyngrwyd Pethau, dulliau'n seiliedig ar ddata, dysgu peiriannol a deallusrwydd artiffisial.

Cyd-gadeiryddionYr Athro HaiJiang Li a'r Athro Pete Burnap