Gweithgor
Mae ein gweithgorau'n canolbwyntio ar feysydd ymchwil newydd ym meysydd DA, roboteg a systemau peiriant-dynol.
Deallusrwydd artiffisial (AI) sy'n canolbwyntio ar bobl ar gyfer delweddu meddygol
Nod y gweithgor AI sy'n canolbwyntio ar bobl ar gyfer delweddu meddygol yw creu màs critigol i sicrhau ffocws a sbardun ar gyfer cyllid ymchwil ac achosion effaith ym maes dysgu peiriannol, dysgu dwfn ac AI mewn delweddu meddygol. Bydd y grŵp trawsbynciol yn meithrin cydweithrediadau ymchwil, datblygu ac arloesedd newydd gyda phartneriaid mewn diwydiant, y sector cyhoeddus a sefydliadau academaidd blaenllaw a llunwyr polisïau.
Amgylchedd adeiledig digidol diogel
Mae gweithgor yr amgylchedd adeiledig digidol diogel yn canolbwyntio ar ddeall y damcaniaeth sylfaenol, y gofynion a datblygiad safonau, systemau ac offer i gymhwyso egwyddorion diogelwch i sicrhau amgylchedd adeiledig digidol diogel a chynaliadwy.