Pobl a robotiaid
Mae ein tîm academaidd a gydnabyddir yn rhyngwladol yn cynnal ymchwil blaenllaw ac yn cyfrannu datblygiadau blaengar ym maes pobl a robotiaid.
Mae'r thema ymchwil pobl a robotiaid yn mynd i'r afael â'r pynciau canlynol:
- roboteg yn seiliedig ar bobl: datblygu robotiaid sy'n deall, rhagweld ac ymateb i ymddygiadau dynol
- roboteg gymdeithasol: robotiaid sydd wedi'u cynllunio i ryngweithio gyda phobl a robotiaid eraill mewn amgylcheddau dynol
- canfyddiad/dysgu robot: systemau sy'n rhoi'r gallu i robotiaid ganfod, deall a dysgu sgiliau newydd neu addasu i'w hamgylchedd drwy algorithmau dysgu
Darganfyddwch fwy am rai o'n prosiectau ymchwil.
Aelodau
Dr Catherine Jones
Darllenydd a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru
Yr Athro Rossi Setchi
Athro mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ar gyfer AI, Roboteg a Systemau Peiriant Dynol (IROHMS)