Deallusrwydd Artiffisial Tebyg i Berson
Mae ein tîm academaidd a gydnabyddir yn rhyngwladol yn cynnal ymchwil blaenllaw ac yn cyfrannu datblygiadau blaengar ym maes deallusrwydd artiffisial tebyg i berson.
Mae'r thema ymchwil deallusrwydd artiffisial tebyg i berson yn mynd i'r afael â'r pynciau canlynol:
- cyfrifiadura affeithiol: astudio a datblygu cyfrifiadura sy'n fwriadol yn ymgorffori emosiwn dynol.
- gwybyddiaeth estynedig: math o ryngweithio dynol-system sy'n cysylltu'r defnyddiwr a'r cyfrifiadur drwy synhwyro cyflwr meddyliol y defnyddiwr yn ffisiolegol a niwroffisiolegol.
- semanteg gyfrifiadurol: astudio sut i echdynnu, cynrychioli a rhesymu'n ystyrlon.
- rhesymu Cyd-destunol: rhesymu gyda chyd-destun dynol ac amdano (e.e. amgylchedd, ymddygiad dynol, bwriadau dynol).
Darganfyddwch fwy am rai o'n prosiectau ymchwil.
Aelodau
Maryam Banitalebi Dehkordi
Research Associate
- banitalebidehkordim@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2251 2385