Ymchwil
Rydym ni’n darparu amgylchedd ymchwil o safon fyd-eang sy’n hwyluso ymchwil arloesol gyda manteision i’r gymdeithas a’r economi.
Blaenoriaethau ymchwil
Mae ein canolfan mewn sefyllfa unigryw i dargedu cyfleoedd newydd sy’n dod i’r amlwg ar y croestoriad rhwng deallusrwydd artiffisial (AI), roboteg a systemau peiriant-dynol. Ein huchelgais yw datblygu gwybodaeth sylfaenol a chymhwysol ac i hyfforddi arbenigwyr y dyfodol mewn meysydd amlddisgyblaethol heriol fel cyfrifiadura seiliedig ar bobl, roboteg seiliedig ar bobl, deallusrwydd artiffisial tebyg i bobl, deallusrwydd artiffisial esboniadwy, cyfrifiadura affeithiol ac ymreolaeth y gellir ymddiried ynddo.
Mae ein diddordeb yn canolbwyntio ar archwilio problemau ymchwil anodd ar y croestoriad rhwng ymddygiad dynol a thechnoleg fel rhyngweithio greddfol, dryswch, chwilfrydedd, dychymyg a chreadigrwydd. Rydym ni’n canolbwyntio ar ddatblygu dulliau newydd ar gyfer astudio rhyngweithio peiriant-dynol, canfyddiad amser real cywir, lleoleiddio pobl a gwrthrychau lluosog a phrosesu a rheoli amlsynhwyraidd.
Themâu ymchwil
Rydym ni wedi sefydlu thema ymchwil sy'n cwmpasu sbectrwm eang o flaenoriaethau. Mae pob thema ymchwil yn cynnwys tîm rhyngddisgyblaethol o academyddion gydag arbenigedd yn y meysydd hyn, sy'n ffurfio grwpiau i ymdrin yn gydweithredol â heriau o bwysigrwydd strategol:
Deallusrwydd artiffisial tebyg i berson
- Cyfrifiadura affeithiol.
- Gwybyddiaeth estynedig.
- Semanteg gyfrifiadurol.
- Rhesymu cyd-destunol.
Deallusrwydd artiffisial moesegol ac esboniadwy
- Deallusrwydd artiffisial moesegol.
- Deallusrwydd artiffisial esboniadwy.
- Roboteg esboniadol.
- Ymreolaeth gydag ymddiriedaeth.
Technolegau a chymdeithas yn seiliedig ar bobl
- Cyfrifiadura'n seiliedig ar bobl.
- Seiber ddiogelwch yn seiliedig ar bobl.
- Technoleg a chymdeithas sy'n dod i'r amlwg.
Pobl a robotiaid
- Roboteg yn seiliedig ar bobl.
- Roboteg gymdeithasol.
- Canfyddiad/dysgu robot.