Mae ein hynodrwydd fel ysgol bensaernïaeth yn gorwedd yn ein ffocws hirsefydlog ar gynaliadwyedd a lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, a’n lleoliad unigryw yng nghanol dinas fywiog Caerdydd, prifddinas Cymru gyda’i threftadaeth gyfoethog a’i diwylliannau a thirweddau amrywiol.
Rydym yn ysgol bensaernïaeth sy’n arwain y byd ac yn gosod yr agenda yng Nghaerdydd. Rydym yn cynnig awyrgylch cydweithredol a bywiog ar gyfer addysgu a gwneud ymchwil. Yn frwd dros amrywiaeth a natur drawsddisgyblaethol pensaernïaeth, rydym yn ceisio rhagoriaeth bob amser yn ein hymchwil ac arloesedd o ran addysgu a dysgu ym meysydd dylunio, y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau.