Ewch i’r prif gynnwys

Cymorth ar gyfer ymchwil a myfyrwyr ymchwil

Caiff ein myfyrwyr gefnogaeth weithredol drwy amrywiaeth o bolisïau a chyfleoedd datblygu wedi'u teilwra ar gyfer camau gyrfa unigol a'u llywio gan ein hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Sut rydym ni'n cefnogi ymchwil

Rydym ni'n cefnogi ymchwil yn weithredol yn ein hysgol mewn amrywiol ffyrdd:

  • caiff ein Swyddfa Ymchwil ei rhedeg gan Reolwr Ymchwil a Swyddog Ymchwil
  • mae Cyfarwyddwr Ymchwil a Phwyllgor Ymchwil yr Ysgol yn ffurfio ein strategaethau, polisïau a diwylliant ymchwil
  • rydym ni'n darparu cyllid blynyddol i aelodau academaidd o staff ar gyfer cynadleddau, teithio a threuliau ymchwil ac ysgolheictod eraill
  • mae staff sy'n weithredol o ran ymchwil yn gymwys i ymgeisio am flwyddyn o absenoldeb ymchwil drwy raglen absenoldeb ymchwil Prifysgol Caerdydd, sydd wedi'i chynllunio i recriwtio Ymchwilwyr rhagorol ar Ddechrau eu Gyrfa i gefnogi absenoldeb staff.
  • gall ein hymchwilwyr fanteisio ar gymorth ar lefel y Brifysgol fel y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd.
  • mae Cyfres Darlithoedd Ymchwil Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn croesawu ysgolheigion blaenllaw gan gynnig fforwm misol bywiog i academyddion a myfyrwyr ôl-raddedig.

Sut rydym ni'n cefnogi ein myfyrwyr ymchwil

Mae ein Hysgol yn gartref i gorff amrywiol o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy'n cydweithio'n agos gyda'n hacademyddion a gydnabyddir yn fyd-eang mewn cymuned ymchwil ôl-raddedig ffyniannus.

Rydym ni'n mabwysiadu ymagwedd dryloyw, cyfle cyfartal at recriwtio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, gan ystyried gwaith proffesiynol/gwirfoddol a phrofiad gyrfa i ymgeiswyr nad ydynt wedi ymwneud ag astudiaethau academaidd yn ddiweddar neu sydd wedi bod ar saib gyrfa/astudio.

Mae'r Ysgol yn cefnogi ein myfyrwyr ymchwil mewn nifer o ffyrdd:

  • adnoddau sydd ar gael drwy'r Academi Ddoethurol fel gweithdai, cyrsiau hyfforddi a digwyddiadau.
  • mannau penodol wedi'u teilwra i'r gymuned ôl-raddedig
  • adolygiadau cyfnodol o gynnydd PhD
  • digwyddiadau cymdeithasol i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, goruchwylwyr a staff gwasanaethau proffesiynol
  • Cael eu cynnwys yn niwylliant ymchwil yr Ysgol drwy'r Grwpiau Ymchwil ac Ysgolheictod, Cyfres Darlithoedd Ymchwil Ysgol Pensaernïaeth Cymru a digwyddiadau, cynadleddau, gweithdai a chyflwyniadau wedi'u cynllunio i gefnogi sgiliau ymchwil disgyblaethol
  • anogaeth i chwarae rhan yn strwythur rheoli'r Ysgol drwy gynrychiolaeth ar ein pwyllgorau.
  • cyfleoedd i gael profiad addysgu
  • anogaeth i wneud cyfraniadau ehangach i'r ddisgyblaeth drwy gyflwyno ymchwil mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol a chwarae rhan weithredol yn trefnu digwyddiadau yn yr Ysgol a thu hwnt.

Mae'r Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig yn gyson yn adlewyrchu'r boddhad cynyddol ymhlith ein myfyrwyr ymchwil sy'n hapus iawn gyda gwybodaeth ac addasrwydd eu goruchwylwyr a'r adborth maen nhw'n ei dderbyn ar eu gwaith.

Cyfleusterau ar gyfer myfyrwyr ymchwil

Mae ein Hysgol yn cynnig nifer o adnoddau a gwasanaethau cysylltiedig sy’n cael eu harwain gan staff cymorth arbenigol. Maent yn helpu ein staff a’n myfyrwyr i wneud ymchwil o’r radd flaenaf.

Ymhlith y rhain mae:

  • cefnogaeth a chymorth hanfodol gan weinyddwyr technegol, rheolwr gweithdy, technegydd, rheolwr labordai digidol, dau gynorthwy-ydd gweithrediadau a swyddogion TG yn yr Ysgol.
  • buddsoddi mewn TG: yn ystod y tair blynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi’n fwy yn seilwaith technolegol ein Hysgol, gan gynnwys ei adnewyddu a’i gryfhau, a rhoi cymorth ymchwil ychwanegol.
  • cyfarpar ymchwil arbenigol: mae gennym amrywiaeth o gyfarpar arbenigol, o synwyryddion a chyfarpar monitro i fraich robotig.

I gael rhagor o wybodaeth am ein cyfleusterau, gan gynnwys ein gwaith adnewyddu diweddar, gweler ein tudalennau ar ein cyfleusterau.