Creu ac ail-greu Onllwyn: datblygu a thrawsnewid hen anheddiad mwyngloddio dros amser
Dechreuodd y prosiect hwn ym mis Mawrth 2022 yn ddarn o ymchwil i ddeall hanes datblygu hen anheddiad glofaol, sef Onllwyn yng Nghwm Dulais.
Cafodd ei gomisiynu gan y cwmni pensaernïaeth a chynllunio 5th Studio er mwyn gwella ein dealltwriaeth o hanes tirwedd ardal Onllwyn, sydd bellach yn rhan ganolog o brosiect adfywio mawr i adeiladu Canolfan Fyd-eang ym maes Rhagoriaeth Rheilffyrdd.
Prosiect ar y cyd yw hwn rhwng yr Athro Juliet Davis, yr Athro Oriel Prizeman a Dr. Lui Tam sy’n cynnwys ystod o ddulliau ymchwil gwahanol. Rydyn ni wedi defnyddio technegau sganio laser daearol a ffotogrametreg gan ddefnyddio drôn i greu cofnod gwreiddiol o olchfa lo sydd bellach wedi cau (un o olion pensaernïol olaf y diwydiant glo caled lleol).
Yn sgil cyfuniad o ddulliau ymchwil archifol a chymdeithasol, rydyn ni hefyd wedi datgelu hanes o ddatblygiad a thrawsnewid rhyfeddol sy’n cwmpasu 200 mlynedd bron iawn. Cymharol ychydig o olion sydd ar ôl o’r hanes hwn yn nhirwedd Cwm Dulais Uchaf heddiw.
Ar y cyd â’r dad-ddiwydiannu ers y 1960au cafwyd gwared yn raddol ar dystiolaeth o’r gorffennol diwydiannol – drwy fewnlenwi, llyfnu ac ail-wledigo’r dirwedd lofaol a thrwy ddymchwel adeiladau diwydiannol a seilwaith cymdeithasol y cymunedau glofaol blaenorol.
Mae cofnodion archifol yn Abertawe, Caerdydd, Banwen, Blaendulais ac Aberystwyth yn dangos byd sydd wedi diflannu i raddau helaeth – boed yn labyrinthau cymhleth yn llawn twneli o dan y ddaear, capeli, pafiliynau chwaraeon, baddondai pen y pwll ac elfennau eraill o wead bywyd bob dydd ar wyneb y dirwedd sydd bellach ar goll. Mae Llyfrgell y Glowyr yng ngweithdy Dove yn y Banwen a chasgliadau helaeth Cymdeithas Hanes Cwm Dulais ym Mlaendulais (a grëwyd drwy lafur cariad y prif archifydd am fwy na hanner can mlynedd bron iawn), wedi bod yn adnoddau arbennig o werthfawr wrth ddatgelu pwysigrwydd cofnodion hanesyddol gorffennol glofaol Cwm Dulais i bobl leol. Yn eu tro, yn sgil cyfarfodydd a sgyrsiau dirdynnol yn aml gyda thrigolion yr ardal gwelwn sut beth go iawn oedd y gorffennol a sut mae’r ardal wedi trawsnewid yn gyfan gwbl.