Cefnogi disgyblion llai breintiedig drwy The Brilliant Club
Mae'r darlithydd Dr Shan Shan Hou wedi bod yn gweithio gyda The Brilliant Club; sefydliad sy'n dwyn ymchwilwyr prifysgol o bob cwr o'r DU ynghyd i gefnogi disgyblion llai breintiedig.
Mae The Brilliant Club wedi galw ar y gymuned PhD drwy recriwtio ymchwilwyr PhD, eu hyfforddi, a’u lleoli mewn ysgolion ledled y DU er mwyn iddynt allu rhannu eu gwybodaeth am eu pynciau a’u hangerdd am ddysgu gyda grwpiau bach o ddisgyblion 8-18 oed. Mae tiwtoriaid yn cael eu hyfforddi i helpu myfyrwyr llai breintiedig i fynd i’r prifysgolion mwyaf cystadleuol, a llwyddo pan fyddant yn cyrraedd yno.
Mae Shan Shan wedi bod yn addysgu ar y rhaglen ysgolheigion, sy'n hyfforddi ymchwilwyr i gyfleu eu hymchwil i gynulleidfa nad yw'n arbenigol, cael profiad gwerthfawr o ymgysylltu â'r cyhoedd, a dyfnhau eu gwybodaeth am system addysg y DU.
Mae’r rhaglen ysgolheigion hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o addysg bellach a gyrfaoedd posibl ymhlith plant ysgol. Mae Shan Shan wedi bod yn addysgu plant 10-11 oed (Blwyddyn 6) ar draws pedair ysgol gynradd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen dros dymhorau’r hydref a'r gwanwyn. Y pedair ysgol yw Ysgol Gynradd George Street, Ysgol Gynradd Gymunedol Penygarn, Ysgol Gynradd New Inn ac Ysgol Gynradd Griffithstown.
Mae'r gwersi wedi canolbwyntio ar newid yn yr hinsawdd, gyda phwyslais ar yr amgylchedd adeiledig. Mae Shan Shan wedi bod yn addysgu atebion ymarferol i’r plant ar gyfer lliniaru effeithiau hinsawdd sy'n newid, fel cadw drysau a ffenestri ar gau pan fydd yn oer y tu allan a diffodd dyfeisiau trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.