Modelu opsiynau ôl-osod ar gyfer mathau nodweddiadol o dai
Buon ni’n gweithio gyda Thai Wales & West (WWH) i gefnogi eu rhaglen ôl-osod system ynni tŷ cyfan ar gyfer y stoc gyfan, a hynny i gyflawni’r targedau arbed carbon a osodwyd gan Lywodraethau’r DU a Chymru.
Casglodd Tai Wales & West wybodaeth berthnasol am eiddo a lleoliadau ar gyfer tri math o eiddo nodweddiadol gan ddefnyddio’r offeryn PRESS 1 a ddatblygwyd gan dîm yr LCBE. Gan ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd gan staff WWH, creodd tîm LCBE fodelau cyfrifiadurol ac ystyried yr atebion carbon isel posibl a fyddai:
- lleihau'r galw am ynni
- arwain at gynhyrchu ynni a storio ar y safle
- aleihau costau ynni i drigolion
- creu lleoedd gwell i fyw
- lleihau allyriadau carbon
Yr Amcanion
Yr amcanion oedd:
- rhoi’r gallu i dîm WWH gasglu data perthnasol gan dîm WWH er mwyn bwydo i mewn i fodel tîm yr LCBE
- defnyddio modelu i adnabod, defnyddio ac ailadrodd atebion ôl-osod a fyddai'n sicrhau llai o allyriadau carbon a chostau ynni i’r trigolion
Yn unol â chais WWH, roedd y modelu’n rhagdybio y byddai gwres ym mhob math o dŷ yn cyrraedd y tai drwy bwmp gwres ffynhonnell aer (ASHP). Ystyriodd y modelu gostau a manteision yr atebion carbon isel ychwanegol a ganlyn:
- inswleiddio atigau a waliau allanol i leihau colledion gwres
- goleuadau ynni isel i leihau'r galw am ynni
- awyru mecanyddol a chanddo systemau adfer gwres (MVHR) i reoli aer sy’n symud yn fewnol, lleithder ac arogleuon drwg
- paneli solar ffotofoltäig (PV)
- storfa ynni ar y safle gan ddefnyddio technoleg batris
Y deilliannau
Er bod y cartrefi o oedran a gogwydd tebyg, dangosodd y prosiect fod y cyfle i gynhyrchu ynni o baneli ffotofoltäig yn amrywio cryn dipyn - o 3.8kWp i 14kWp.
Mae'r modelu'n dangos bod y tri chartref wedi gallu lleihau'r defnydd o ynni fwy na 60% er gwaethaf yr amrywio yn y potensial i gynhyrchu ynni.
Byddai dau o'r cartrefi yn cynhyrchu mwy o ynni nag y byddai ei angen arnyn nhw dros gyfnod o flwyddyn, gan eu gwneud yn bositif o ran ynni. Ceir y potensial hefyd i greu incwm drwy fwydo ynni yn ôl i'r grid pan fydd tariff priodol ar gael ac wedi'i ddewis.
Y gwersi a ddysgwyd
Mae proses sy’n casglu data’n gyson ac sy’n gyflym i’w rhoi ar waith ond sy’n casglu gwybodaeth berthnasol gan gynnwys lluniau yn cyflymu’r broses gynllunio.
Mae modelu’n golygu bod modd cymharu’r opsiynau gwahanol. Er enghraifft, roedd WWH yn awyddus i wthio y tu hwnt i’r Rheoliadau Adeiladu o ran perfformiad thermol inswleiddio’r waliau allanol. Roedd modelu’r ystod o fanteision rhwng yr opsiynau, gan gynnwys arbed biliau ynni a lleihau allyriadau carbon, o gymorth mawr yn y broses o wneud penderfyniadau.
Gall paneli ffotofoltäig sy'n gogwyddo o’r dwyrain i gyfeiriad y gorllewin fod o gymorth mawr wrth fanteisio i’r eithaf ar ynni ac felly'n hunangynhaliol. Mae hyn hyd yn oed yn fwy buddiol nawr gan fod cyflenwyr ynni yn dechrau talu am ynni sy'n cael ei allforio i'r grid.
Tîm y prosiect
Mae tîm y prosiect yn cynnwys tîm yr LCBE yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd y Tai Wales and West.
Mae gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru gysylltiadau ymchwil cynhyrchiol ag ymarfer, diwydiant a phrifysgolion mewn nifer o wledydd.