Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect amgylchedd adeiledig carbon isel Prifysgol Caerdydd

Whole house energy retrofit

Mae Tîm Ymchwil yr Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE) wedi sicrhau £3.4 miliwn i ddefnyddio technolegau carbon isel fforddiadwy y gellir eu hatgynhyrchu yn yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru.

Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o'r rhaglen gwerth £37.3 miliwn, SPECIFIC, a gafodd ei chynnal rhwng 2015 a 2023, dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Akzo Nobel, NSG Pilkington, Tata Steel ac ystod eang o bartneriaid busnes ac academaidd eraill. Caiff SPECIFIC ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac Innovate UK ac EPSRC.

Mae Tîm yr LCBE yn ehangu ar yr wybodaeth ymarferol yn sgîl dylunio, adeiladu a monitro prosiectau cynharach, gan gynnwys Tŷ SOLCER sy'n effeithlon o ran ynni, pum prosiect ôl-osod carbon isel a'r Ganolfan Amlenni Adeiladu Cynaliadwy (SBEC) ac ariennir pob un o dan raglen y Sefydliad Ymchwil Carbon Isel (LCRI).

Trosolwg

Mae'r cyflenwad ynni adnewyddadwy, storio ynni a thechnolegau nad oes angen cymaint o ynni arnyn nhw’n cael eu cyfuno i roi tystiolaeth a llywio penderfyniadau rhanddeiliaid ynghylch y potensial i wneud arbedion carbon ac ynni yn ogystal â lleihau biliau ynni.

Mae tîm yr LCBE yn gweithio'n agos gyda'r holl randdeiliaid perthnasol gan gynnwys y preswylwyr, byd diwydiant, yr awdurdodau lleol, darparwyr tai cymdeithasol a chadwyni cyflenwi i sicrhau bod atebion carbon isel yn ymarferol ac yn briodol, a hynny yn ystod pob cam o’r gwaith cynllunio, dylunio, adeiladu, cynnal a chadw a rhoi’r cynlluniau ar waith