Cofrestru Symposiwm 2023
Pensaernïaeth Arwahanrwydd: Corff, Cyfryngau, Gofod yn cael ei gynnal ar 7 ac 8 Medi 2023, yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd.
Nod y symposiwm hwn yw galw, sefydlu ac ehangu cymuned ymchwil weithredol ar draws sefydliadau GW4 a thu hwnt, plannu hadau ar gyfer cysylltiadau hanfodol â chymunedau sydd wedi ymddieithrio’n gymdeithasol ac yn ddiwylliannol a myfyrio ar ffyrdd y gall pensaernïaeth feithrin eu grym creadigol a’u cydnerthedd. Fel y cyfryw, mae’n gwneud y canlynol:
- gwahodd ymchwilwyr sy'n archwilio arwahanrwydd o safbwyntiau disgyblaethol amrywiol, i rannu fframweithiau damcaniaethol a methodolegol a thrafod astudiaethau achos arloesol
- helpu i ysgogi creu ystorfa ar-lein y gellir ei chyrchu am ddim sy'n rhannu cynnwys perthnasol ac yn cefnogi ymgysylltiad academyddion, dylunwyr ac addysgwyr â phrosiectau newidiol yn yr amgylchedd adeiledig
- creu cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu cyfnodolyn academaidd pwrpasol ar y themâu hyn
- cefnogi trafodaethau ar brosiectau yn y dyfodol, a ffyrdd o ariannu a chynnal gweithredu yn y dyfodol
Gallwn gadarnhau mae ein prif siaradwr fydd:
Gall cyfraniadau sy’n trafod sut y gall pensaernïaeth arwahanrwydd herio gorchmynion diwylliannol a chefnogi darnau cynhwysol a thramgwyddus ein helpu i ddamcaniaethu ar ddyfodol addawol y ddau syniad (pensaernïaeth ac arwahanrwydd), datgelu eu cyflwr presennol, ac archwilio eu gorffennol amrywiol.
Mae’r symposiwm yn gwahodd cyfoedion academaidd i drafod arwahanrwydd fel amod sydd wedi’i ymgorffori a’i wreiddio wrth ystyried a dadansoddi patrymau pensaernïol/gofodol/rhanbarthol. O astudiaethau hanesyddiaethol, eiconograffyddol, ffurfiol ar gyfnewidioldeb rheolau sefydledig, i ddadansoddiadau’r cyfryngau cymdeithasol a digidol o gorfforaethau yr effeithiwyd arnynt gan rywedd, hiliaeth, heintiau, rhyfel, mudo ac ati, dymunwn ddod ag ystod o ysgolheigion amrywiol ynghyd ac ail-gychwyn trafodaethau ar bensaernïaeth arwahanrwydd a'u canfyddiadau o fewn diwylliannau gweledol.
Ein dymuniad a'n blaenoriaeth yw dod â phobl ynghyd yn gorfforol a chefnogi cyfranogiad mewn gweithdai a thrafodaethau ehangach yn well. Gall y pwyllgor archwilio ceisiadau eithriadol am gyfranogiad/cyflwyniadau ar-lein os yw’r rhain yn hanfodol ar gyfer cefnogi cynulliad amrywiol a chynhwysol fesul achos. Rhoddir blaenoriaeth i’r sawl a all gymryd rhan yn y ddau ddiwrnod a’r gweithdai a’r digwyddiadau dilynol.
Dyddiadau pwysig
Dyddiad | Digwyddiad |
---|---|
5 Mai 2023 | Galw am gyflwyniadau papur 15 munud |
7 Gorffennaf 2023 | Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodebau |
14 Gorffennaf 2023 | Hysbysiad derbyn / Cofrestru'n agor |
14 Awst 2023 | Cyhoeddi’r rhaglen |
1 Medi 2023 | Dyddiad cau ar gyfer cofrestru |
7-8 Medi 2023 | Sesiynau cynhadledd a gweithdai grŵp |
I gymryd rhan yn y gweithgareddau Symposiwm, cyflwynwch eich crynodeb ar gyfer cyflwyniad 15 munud erbyn 7 Gorffennaf 2023, 12.00