Ewch i’r prif gynnwys

Sbarduno buddsoddiad i dai fforddiadwy, carbon isel ledled Cymru

Mae ein hymchwilwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi dylunio ac wedi adeiladu'r tŷ carbon isel fforddiadwy cyntaf yn y DU gan ddefnyddio technolegau sydd ar gael yn y farchnad. Mae ein dull 'tŷ cyfan' wedi arwain at Lywodraeth Cymru yn buddsoddi £91 miliwn i gynnwys dyluniadau cynaliadwy mewn dros 1,400 o gartrefi newydd.

Solcer House

Mae argyfwng hinsawdd y byd wedi gorfodi llawer o wledydd i feddwl am yr hyn y gallwn ei wneud i leihau allyriadau carbon. Mae cartrefi yn y DU yn cynhyrchu 20% o'r allyriadau CO2 cenedlaethol sy'n golygu bod tai carbon isel fforddiadwy yn hanfodol i leihau allyriadau digon i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 95%. Mae ein gwaith ymchwil wedi mynd i'r afael â'r problemau hyn drwy ddatblygu methodoleg 'tŷ cyfan' y gellir ei hailadrodd am gost fforddiadwy ar gyfer ôl-osod a chartrefi newydd.

Datblygu methodoleg ôl-osod 'tŷ cyfan'

Yn 2009-10, edrychodd ein hymchwilwyr ar y posibilrwydd o leihau allyriadau carbon mewn tai drwy leihau'r galw am ynni drwy wella deunyddiau tai a defnyddio technolegau mwy effeithlon o ran ynni. Trwy raglen 'Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol' y Bwrdd Strategaeth Technoleg, defnyddiodd ein tîm ymchwil ddull ôl-osod 'tŷ cyfan' mewn tŷ pâr trefol o'r 1980au. Gwnaethom ddangos, trwy gynnwys technolegau ynni isel yn strwythur yr adeilad, y gellid lleihau costau. O ddadansoddi’r defnydd o ynni yn y cartref rhwng mis Hydref 2011 a Mai 2012, gwelwyd gostyngiad o 74% mewn allyriadau CO2 ar ôl ôl-osod.

Yna, gwnaethom ehangu ein gwaith ymchwil i werthuso'r posibilrwydd o ddefnyddio dull seiliedig ar systemau 'tŷ cyfan' ar gyfer mwy o gartrefi presennol yng Nghymru. Wedi'i ariannu gan y Sefydliad Ymchwil Carbon Isel (LCRI) a'i gefnogi gan Raglen Cydgyfeirio'r UE, arweiniodd ein hymchwilwyr y gwaith o gynllunio, dylunio, gweithredu a gwerthuso dull fforddiadwy y mae modd ei ailadrodd o ôl-osod pum tŷ yr ystyriwyd eu bod yn cynrychioli mathau o dai ledled Cymru. Yn dibynnu ar anghenion pob adeilad, cafodd y pum tŷ eu hôl-osod ag inswleiddiad waliau ac atig, gwydr dwbl, unedau awyru mecanyddol gyda system adfer gwres (MVHRs), systemau ffotofoltäig (PVs) a thechnolegau storio ynni, a chawsant eu monitro ar gyfer defnydd ynni gwirioneddol cyn ac ar ôl yr ôl-osod. Canfu ein gwaith ymchwil fod allyriadau CO2 wedi gostwng 50-75% ar draws y pum tŷ a gafodd eu hôl-osod, gydag arbedion cost blynyddol rhwng £402 i £621 ar gyfer pob cartref.

Tŷ SOLCER

Ochr yn ochr â'r ôl-osod, defnyddiodd ein hymchwilwyr ddull systemau 'tŷ cyfan' carbon isel a fforddiadwy o adeiladau newydd a arweiniodd at gynllunio, dylunio ac adeiladu Tŷ SOLCER. Wedi'i gwblhau yn 2015, hwn oedd y tŷ fforddiadwy cyntaf ynni cadarnhaol a adeiladwyd yn y DU. Roedd ein hymchwilwyr yn ymwneud â gwaith monitro helaeth ac efelychu cyfrifiadurol dros gyfnod o bedair blynedd a ddangosodd fod Tŷ SOLCER yn cynhyrchu mwy o ynni y flwyddyn nag sydd ei angen ar gyfer gwresogi a phŵer trydanol o dan amodau deiliadaeth arferol, gan arwain at arbed tua £1,000 y flwyddyn mewn costau ynni. Enillodd Tŷ SOLCER Wobr Prosiect Breakthrough yng Ngwobrau Adeiladau ac Effeithlonrwydd Ynni'r DU 2015 a Phrosiect Cynaliadwy'r Flwyddyn yng Ngwobrau Cynnal Cymru 2015.

Hysbysu Llywodraeth Cymru ar ddatgarboneiddio tai

Yn 2017, gwnaethom wneud gwaith ymchwil a gomisiynwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru ar ddatgarboneiddio tai presennol. Yn yr adroddiad 'More | better', argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru ariannu prosiectau tai enghreifftiol i gefnogi ein llwybrau cyflawni a thechnegau adeiladu a argymhellir ac annog sefydliadau yn eang i fabwysiadu’r gwaith o adeiladu tai ynni isel fforddiadwy.

Yn 2018, cawsom ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i adolygu atebion ar gyfer datgarboneiddio'r stoc dai bresennol drwy astudiaethau achos o ôl-osod carbon isel a phrosiectau newydd. Defnyddiodd ein hadroddiad fodelu i argymell ffyrdd o ddatgarboneiddio tai Cymru ar gyfer 14 math o dai sy'n gyffredin yng Nghymru.

SOLCER House
SOLCER House

Ffeithiau allweddol

  • Mae cartrefi yn y DU yn cynhyrchu 20% o allyriadau CO2 cenedlaethol
  • Wedi'i gwblhau yn 2015, Tŷ SOLCER oedd y tŷ ynni-cadarnhaol fforddiadwy cyntaf a adeiladwyd yn y DU.
  • Canfu ein gwaith ymchwil fod allyriadau CO2 wedi gostwng 50-75% ar draws y pum tŷ a gafodd eu hôl-osod.

Yn sgîl ein gwaith ymchwil ar ymarferoldeb ôl-osodiadau datgarboneiddio, dechreuodd Llywodraeth Cymru dwy raglen tai carbon isel:

Y Rhaglen Tai Arloesol

Roedd y Rhaglen Tai Arloesol (IHP), a lansiwyd gan Carl Sargeant AC, yn gynllun grant gwerth £10 miliwn gan y Llywodraeth i adeiladu tai fforddiadwy newydd ledled Cymru sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo cynlluniau tai carbon isel a chadarnhaol o ran ynni. Mae llawer o brosiectau a ariennir gan y Rhaglen wedi tynnu'n uniongyrchol ar y datblygiadau arloesol a'r egwyddorion a ddatblygwyd trwy ein gwaith ymchwil ar Dŷ SOLCER, gan arwain at gostau ynni is a llai o allyriadau carbon flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae enghreifftiau o gartrefi a adeiladwyd trwy'r Rhaglen a oedd yn ymgorffori egwyddorion a ddangoswyd gan Solcer yn cynnwys:

  • Adeiladwyd 46 o gartrefi gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
  • Adeiladwyd dros 100 o gartrefi gan Gyngor Abertawe a gomisiynodd Ysgol Pensaernïaeth Cymru i greu model o effaith safon carbon isel newydd ar gyfer ei gartrefi newydd eu hadeiladu.
  • Adeiladwyd 16 o gartrefi gan Tai Cymdeithasol Pobl yng Nghastell-nedd i leihau tlodi tanwydd i denantiaid cymdeithasau tai drwy gynlluniau tai net cadarnhaol.
  • Adeiladwyd 14 o gartrefi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gomisiynwyd gan Tai Wales and West.
  • Adeiladwyd dau dŷ gan ddatblygwr yn Xi'an yn Nhalaith Shaanxi, Tsieina ar ôl ymweld â thŷ SOLCER yn 2015.

Y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio gwerth £9.5m

Ym mis Awst 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru  Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio gwerth £9.5 miliwn i osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn hyd at 1,000 o gartrefi sy'n eiddo i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau. Mae'r Rhaglen yn cynnwys cyllid ar gyfer technolegau a ddangoswyd gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru, gan gynnwys pympiau gwres, systemau ynni deallus a phaneli solar. Mae'r Rhaglen bellach yn rhan o “adferiad gwyrdd” Llywodraeth Cymru i liniaru effeithiau economaidd pandemig COVID-19. Mae gan y Rhaglen gyfle ehangach i wella'r economi leol drwy greu swyddi lleol, cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau a chadwyni cyflenwi fel rhan o ddiwydiant ôl-osod newydd yng Nghymru.

House retrofit Swansea

“Roedd yn amlwg i mi y byddai dulliau traddodiadol o adeiladu tai yn annhebygol iawn o gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen.  Roedd angen dull newydd ac arloesol, ac roedd yr adroddiad a gomisiynais gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn dangos, er nad oes bwled arian, bod llawer o fodelau a dulliau posibl ar gael.”

Meddai Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant

Jones, P. J., Lannon, S. C. and Patterson, J. L (2013) Retrofitting existing housing: how far, how much? Build. Res. Infor., 41 (5) pp. 532-550

Jones, P.J ,Perisoglou, E and Patterson, J.L (2017) Five-energy retrofit houses in South Wales. Energy and Building 154, pp. 335-342

Jones P.J, Xiaojun, Coma Bassas, E, Perisoglou, E and Patterson J.L(2020) Energy positive house: performance assessment through simulation and measurement. Energies 13 (18), 4705

Green, E. Lannon, S. Patterson, J.L and Iorwerth, H. (2019). Homes of Today for Tomorrow STAGE 2: Exploring the potential of the Welsh housing stock to meet 2050 decarbonisation targets. Cardiff: Cardiff University. Available from HEI on request.