Canolfan Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel
Rydym yn gwneud ymchwil ar ystod o brosiectau sy’n gwthio’r dull system ynni adeilad cyfan yn ei flaen, gan greu atebion ymarferol ac effeithiol gydag, ac ar gyfer, ystod eang o randdeiliaid i ysbrydoli newid ar bob graddfa.
Mae ein hymchwil yn datblygu dealltwriaeth o'r gostyngiadau sylweddol yn y defnydd o garbon, sy’n gysylltiedig â’r galw llai am ynni, cyflenwad ynni adnewyddadwy, a storio ynni. Ar yr un pryd, rydyn ni hefyd yn darparu tystiolaeth o'r manteision cymdeithasol, megis bywydau mwy cysurus, llai o dlodi tanwydd, a gwelliannau mewn iechyd i arferion gwaith, i’n helpu ni i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau a fydd yn galluogi amgylchedd adeiledig o safon.
Ein hymchwil
Mae ymchwil y Ganolfan Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel wedi ysbrydoli Rhaglen Tai Arloesol gwerth £91m Llywodraeth Cymru yn ogystal â buddsoddiad o £120m ar gyfer tair blynedd gyntaf y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Mae'r rhain yn cael eu defnyddio i ddatblygu Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 newydd a gwell, sydd ar fin cael ei chwblhau ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru.
Ysbrydolodd y Tŷ Ynni Positif SOLCER newid sylweddol wrth osod systemau ynni tŷ cyfan mewn sefydliadau tai cymdeithasol ac awdurdodau lleol ledled Cymru, megis datblygu Safon Abertawe ar gyfer cartrefi newydd a ddefnyddiwyd mewn 65 o gartrefi hyd yma a mwy na 40 o gartrefi a adeiladwyd gan Dai Wales and West. Defnyddiwyd astudiaethau achos y Ganolfan yn enghreifftiau o arfer da yn adroddiad Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell Llywodraeth Cymru ac fe'u defnyddiwyd yn rhan o gyhoeddi'r Cod Ymarfer ar gyfer Systemau Storio Ynni Trydanol (ail argraffiad) gan IET (2020).
Roedd staff y Ganolfan yn rhan o'r Grŵp Cynghori ar Ddatgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru, sef grŵp annibynnol o arbenigwyr a sefydlwyd i gynghori ar sut i leihau allyriadau carbon yng nghartrefi Cymru erbyn 2050. Rhoddon nhw dystiolaeth i Ymchwiliad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru i Dai Carbon Isel yn y Senedd yn 2018 a 2022.
Maent wedi sicrhau cyllid o arianwyr yn y DU ac yn rhyngwladol. Ymhlith y rhain mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), Llywodraeth Cymru, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, awdurdodau lleol yng Nghymru, Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF), Sefydliad Gwyddoniaeth Ewrop a Llywodraeth Tseina.
Gwyliwch ein fideo yn archwilio sut mae LCBE yn darparu amgylchedd carbon isel:
Manylion cyswllt
Yr Athro Joanne Patterson
Cymrawd Ymchwil Athrawon, Cyfarwyddwr Ymchwil